Mae Robert Page yn credu bod gan Gymru’r gallu a’r awydd i barhau â’u taith Ewro 2020 drwy guro Denmarc yn Amsterdam.
Nid yw Cymru yn cael eu gweld fel y ffefrynnau gan lawer i ennill y gêm yn Arena Johan Cruyff heddiw (ddydd Sadwrn am 5yp), gyda Denmarc yn cael eu sbarduno gan gefnogaeth o bob rhan o Ewrop yn dilyn ataliad cardiaidd Christian Eriksen ar ddechrau eu twrnamaint.
Mae Eriksen bellach yn gwella yn dilyn ei gwymp ar y cae ac yng nghartref ei hen glwb, Ajax, y bydd Denmarc a Chymru yn cyfarfod am le yn y rowndiau gogynderfynol.
Bydd enillwyr y gêm hon yn wynebu unai yr Iseldiroedd neu’r Weriniaeth Siec yn rownd yr wyth olaf.
“Rydyn ni’n meddwl bod gennym gynllun gêm sy’n gallu eu brifo,” meddai Robert Page, sydd â sgwad llawn i ddewis heblaw am amddiffynnydd Chelsea Ethan Ampadu sydd wedi ei atal rhag chwarae ar ol iddo gael cerdyn coch yn y gêm yn erbyn yr Eidal.
‘Hunllef’
“Roedd yn ymwneud â mynd drwodd, ond doedden ni ddim eisiau gorffen yn drydydd yn y grŵp.
“Rydyn ni wedi ennill yr hawl i orffen yn ail ac mae’n rhaid i’r clod fynd at y chwaraewyr am wneud hynny yn erbyn yr holl siawns.
“Roedd ’na lot o bobl oedd ddim yn ein gweld ni’n gorffen yn ail.”
Dywedodd Page yn gynharach yr wythnos hon fod Cymru wedi goresgyn “hunllef” logistaidd i gyrraedd y rownd o 16.
Dim ond y Swistir a Sweden sydd wedi teithio mwy o filltiroedd na Chymru yn ystod y twrnament traws-gyfandirol.
Pan ofynnwyd a oedd llwyddo yn teimlo’n felysach ar ôl cynnifer o faterion logistaidd, dywedodd Page: “Mae’n debyg, ond allwn ni ddim cwyno am y peth.
‘Emosiwn’
“Dyma sut mae’n datblygu. Rydyn ni wedi mynd i Baku a Rhufain a nawr rydyn ni yn Amsterdam.
“Rydym wedi paratoi’n llawn ac yn barod ar gyfer brwydr. Mae’r byd wedi nodi’r hyn sydd wedi digwydd (i Eriksen) a’r emosiwn sy’n gysylltiedig ag ef.
“Allwn ni ddim cymryd rhan yn hynny. Mae’n waith i ni fel arfer, mae gennym waith i’w wneud ac rydym am fynd i’w orffen.”
Mae Page wedi bod yng ngofal y tîm ers mis Tachwedd, gyda’r rheolwr Ryan Giggs ar wyliau o’i swydd.
Bu’n daith ryfeddol i Page, yr oedd ei swyddi rheoli blaenorol yn Port Vale, Northampton a thîm Dan-21 Cymru.
Dechreuodd y gŵr 46 oed ei yrfa chwarae yn Watford ac enillodd dan gyn-reolwr Lloegr, y diweddar Graham Taylor.
‘Pinacl’
Dywedodd Page: “Dyma binacl fy ngyrfa bersonol o safbwynt rheoli, ac rydych chi’n cymryd agweddau ar yr holl reolwyr rydych chi wedi gweithio gyda nhw.
“Dim ond blynyddoedd yn ddiweddarach y mae gennych amser i fyfyrio ac edrych yn ôl ar yr hyn yr arferai Graham ei wneud.
“Roedd y modd roedd yn ymdrîn a’r chwaraewyr yn rhagorol, ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth.
“Roedd e’n gwisgo tua phedair neu bump o hetiau gwahanol. Roedd yn hyfforddwr, rheolwr, hyfforddwr ffitrwydd, seicolegydd ac, wrth gwrs, rydych chi’n mynd i ddysgu llawer o hynny.
“Roedd yn un o lawer o reolwyr da y cefais fy mendithio i weithio iddo.”