Mae arweinwyr busnes Cymru yn amheus o werth technoleg wrth geisio cynyddu eu helw, yn ôl adroddiad newydd.

Dangosa ymchwil newydd gan y Brifysgol Agored fod 77% o arweinwyr y Deyrnas Unedig heb y sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio technoleg newydd yn llwyddiannus yn eu busnesau.

Dim ond 39% o arweinwyr busnes sy’n credu fod technoleg yn cael effaith gadarnhaol ar effeithlonrwydd, mae 31% yn credu ei fod yn gwella refeniw, a 27% yn credu ei fod yn cynyddu’r elw.

Fe gafodd 1,500 o arweinwyr Busnesau Bach a Chanolig yn y Deyrnas Unedig eu holi am yr heriau sy’n eu hwynebu.

Mae 21% o arweinwyr busnesau yn dweud na fyddai mabwysiadau technoleg yn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar eu busnesau.

Canfyddiadau

Dangosa’r ymchwil fod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar gynnydd pan ddaw at dechnoleg ddigidol, gyda 54% o’r busnesau wedi cyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg newydd.

Er hynny, mae heriau’n parhau i wynebu busnesau Cymru wrth weithredu a chynyddu’r defnydd o dechnolegau newydd.

Mae gwahaniaethau mawr yn y ffordd mae cwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig yn mynd ati i roi technoleg newydd ar waith.

Tra mae gan gwmnïau mawr yr adnoddau i gyflwyno sgiliau a hyfforddiant, a chyflwyno technoleg, dywedodd 30% o arweinwyr busnesau bach a chanolig fod yr amser a’r gost o fabwysiadu technoleg yn rhy ddrud neu drafferthus.

Fodd bynnag, mae busnesau bach a chanolig wedi dangos eu bod nhw’n hyblyg o ran hyfforddiant a sgiliau digidol, a dywedodd 70% o arweinwyr fod ganddyn nhw ddiddordeb dysgu a datblygu’r elfen hon o’u gwaith.

Yn aml, credir mai pobol ifanc sydd fwyaf medrus wrth ddefnyddio technoleg, ond dywedodd arweinwyr 35 oed a hŷn eu bod nhw’n fwy gwybodus yn gyffredinol ynghylch cyfrifiadura, cyfrifyddu ar-lein, fideo gynadleddau, a seibrddiogelwch.

Mae arweinwyr iau rhwng 18 a 34 yn fwy gwybodus ynghylch awtomeiddio marchnata, ac yn fwy parod i gymryd rhan mewn hyfforddiant, dangosa’r ymchwil.

“Pawb yn ennill”

Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru gan Lywodraeth Cymru yn gwneud ymrwymiad i uwchraddio’r seilwaith digidol a’r seilwaith cyfathrebu, a chreu gweithlu hyderus a fydd â’r gallu a’r sgiliau digidol i ragori.

Yn ogystal, mae’r Strategaeth yn nodi bod addysg a hyfforddiant hyblyg, ynghyd â phrentisiaethau pob oed, yn ymyrraeth hanfodol.

Un busnes a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil yw CraftCourses.com, sef busnes o Sir Benfro sy’n cynnig gweithdai, dosbarthiadau a chyrsiau’n ymwneud â chrefft, celf a llesiant.

Roedd Kate Dewmartin yn cynnig y gweithdai wyneb yn wyneb, ond golygodd y pandemig fod rhaid iddi droi at gynigion digidol.

Cofrestrodd ar gyfer y cynllun gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, hyfforddiant sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan ei bod hi angen gwella ei thîm Peirianneg Didigol.

“Mae gweithio gyda chynllun prentisiaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cynnig sefydlogrwydd mawr inni,” meddai Kate Dewmartin.

“Mae’r prentis yn aros gyda’r cwmni am bedair blynedd ac yn dod yn rhan hanfodol o’r tîm, ac fe gewch chithau gyfle i feithrin talent o Gymru. Mae pawb yn ennill.”

Ychwanegodd fod “angen llawer o ddisgyblaeth i fynd i’r afael â gradd-brentisiaeth y Brifysgol Agored, o ran cyfuno gweithio ac astudio”.

“Trawsnewid” ffordd o weithio

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o fusnesau wedi gorfod trawsnewid eu ffordd o weithio a’u ffordd o gysylltu â’u cwsmeriaid, ac mae technoleg wedi chwarae rhan hollbwysig yn hyn,” meddai Lynnette Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

“Erbyn hyn, mae seilwaith digidol yn ganolog i’n ffordd o weithio ar draws pob sector, yn enwedig i’n hadferiad economaidd ar ôl Covid-19, ac mae busnesau wrthi’n cynllunio ar gyfer buddsoddi a gweithredu yn y tymor hwy.

“Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i ysgogi ffyniant a chadernid economaidd trwy ddefnyddio a manteisio ar arloesi digidol, a cheir ymrwymiad i gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gyflymu eu proses o fabwysiadu technoleg ddigidol er mwyn iddynt allu gweithio’n ddoethach, ysgogi arloesi a gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd i ddod. Gyda’r rhaglen newydd hon bellach ar waith, dyma gyfle delfrydol inni ystyried cyfleoedd i wella sgiliau yn y sector hwn.

“Mae’r adroddiad yn pwysleisio pa mor bwysig yw cyfleoedd dysgu hyblyg, ac mae llwybrau fel ein gradd-brentisiaethau ni yn ddewis gwych i fusnesau Cymru.”