Gareth Bale yn canu’r anthem, Hen Wlad fy Nhadau

 

Mae miloedd o blant ysgol o bob rhan o Gymru wedi bod yn canu’r anthem ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i ysbrydoli Cymru yn erbyn Denmarc heddiw.

Fe ddaeth yr alwad ar i ysgolion Cymru wneud eu rhan gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) yn dilyn ymgyrch gan Lywoddraeth San Steffan i geisio cael pawb i ganu cân arall oedd i fod i geisio ‘uno’ y Deyrnas Unedig.

 

Ymysg yr ysgolion sydd wedi rhoi fideos o’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ mae Ysgol Frongoch, Dinbych; Ysgol Gymunedol Pen-Pych, Blaenrhondda; Ysgol Gynradd Aberceerdin, Porth; Ysgol Pencae, Caerdydd; Ysgol Licswm, Sir Fflint; Ysgol Rosehayworth, Abertyleri.

Hefyd, Ysgol Trefnant, Sir Ddinbych; Ysgol Gymraeg Gwenllian, Cydweli; St Mary’s, Caerfyrddin; St Joseph’s, Bae Colwyn; Ysgol Gynradd Ton Pentre; Ysgol Gynradd Baglan; Ysgol Uwchradd Pencoed; Ysgol Gynradd Howardian; Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd; Ysgol Gynradd y Felinheli a llawer, llawer mwy.

Mae’r ymdrech arbennig hon gan ysgolion Cymru wedi cael ei defnyddio i ysbrydoli carfan Cymru draw yn Amsterdam, yr Iseldiroedd.

Mewn cyfweliadau gyda BBC Radio Cymru, dywedodd chwaraewr canol-cae Cymru, Aaron Ramsey, fod y garfan wedi derbyn nifer fawr o negeseuon gan gefnogwyr.

Meddai: “Rydym wedi gswel lot iawn o negeseuon. Gobeithio y gallwn ni wneud nhw yn falch unwaith eto.”

Dywedodd Joe Allen mai gêm “11 yn erbyn 11” fydd hi ac fod “digon ganddo ni i ennill y gêm.”

Dywedodd Ben Davies: “Mae Denmarc yn dim anodd iawn i chwarae yn eu herbyn. Bydd yn rhaid io ni fod ar ein gorau.”