Dim ond saith fôt oedd ynddi wrth i Blaid Cymru gipio sedd Harlech a Thalsarnau ar Gyngor Gwynedd.

Bu yn rhaid cynnal is-etholiad wedi i’r cynghorydd annibynnol Freya Bentham ymddiswyddo o’r gwaith yn gynharach eleni.

Yn ei lle y daw’r Cynghorydd Gwynfor Owen o Blaid Cymru a lwyddodd i ddod yn gyntaf gyda 161 o bleidleisiau, gyda’r ymgeisydd annibynnol Lisa Birks yn ail agos iawn gyda 154 o bleidleisiau, a’r ymgeisydd annibynnol arall Martin James Hughes hefyd yn agos ati gyda 153 o bleidleisiau.

“Mae yn anrhydedd cael fy ethol i gynrychioli’r ward,” meddai Gwynfor Owen wrth Wasanaeth Newyddion Democratiaeth Leol.

“Fe fydda i yn edrych ar sut i ddatrys  y broblem gyda thai yn Harlech, gyda thrafferthion mawr gyda phobol leol yn methu fforddio prynu tai.

“Mae yna broblem gyda thai gwyliau ac felly cyflogaeth a thai fydd fy mhrif flaenoriaethau, ond wrth reswm mae yna faterion eraill sydd angen sylw yn yr ardal.”

Golyga’r fuddugoliaeth bod Plaid Cymru yn meddu ar 40 o’r 75 o seddi yn siambr Cyngor Gwynedd.

Ond fe fydd angen i Gwynfor Owen amddiffyn ei sedd eto fis Mai nesaf, gydag etholiadau cyngor sir i’w cynnal ledled Cymru.