Bydd y dafarn a fu yn gyrchfan i genedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg yn ninas Bangor yn cau ei drysau dros dro.

Mae perchennog tafarn y Glôb ym Mangor Uchaf wedi penderfynu cau’r drysau yn sgil “nifer o achosion positif” o Covid-19 ymysg eu cwsmeriaid a’u staff yn y dyddiau diwethaf.

Mewn cyhoeddiad ar dudalen Facebook y dafarn, dywedodd y perchennog eu bod nhw am gau am wythnos, cyn ailasesu’r sefyllfa.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae 37 o achosion newydd o’r corona wedi bod ym Mangor, o gymharu â chwech yn yr wythnos flaenorol.

Mae yna “ychydig o bryder” yn lleol, meddai un cynghorydd, a theimlad fod y gyfradd yn cynyddu.

“Iechyd a diogelwch yn flaenllaw”

“Yn sgil nifer o achosion positif Covid ymysg ein cwsmeriaid a staff yn y dyddie dwetha, dwi di penderfynu cau’r Glôb am wythnos ac ail asesu’r sefyllfa bryd hynny,” meddai neges facebook y dafarn.

“Dw i’n deall y caiff nifer fawr eu siomi, a hithau’n benwythnos chwaraeon mor fawr ond dw i’n credu y cytunwch mai iechyd a diogelwch ein cymuned sydd flaenllaw.”

Gan ddymuno’n dda i’w gwsmeriaid, dyweda’r perchennog y bydd yn meddwl amdanyn nhw, ond mai’r peth pwysicaf yw bod pawb yn cadw’n saff, a chadw’n iach.

“Penderfyniad anodd”

“Dw i’n siŵr ei fod o’n benderfyniad anodd ei wneud ar ôl blwyddyn mor heriol, a dw i’n parchu’r penderfyniad mae o wedi’i wneud,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, sy’n cynrychioli un o wardiau dinas Bangor ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“O ran yr achosion ym Mangor, o’r wybodaeth sydd gen i, yn yr wythnos ddiwethaf mae yna 37 o achosion wedi bod i gymharu efo 6 oedd yna’r wythnos cynt.

“Felly mae o’n dipyn o naid.

“Yn gyffredinol, mae yna deimlad fod pethau’n cynyddu. Mae’r cyfraddau’n teimlo fel tasa nhw’n codi.

“A dw i’n meddwl fod yna ychydig o bryder gan bobol yn gyffredinol am hynny, ond be dw i ddim wedi clywed am ydi pobol yn mynd yn ofnadwy o wael eto.

“Mae rhywun yn gobeithio ella fod y brechu wedi helpu, ond gawn ni weld. Yr wythnos yma rydan ni’n gweld y cynnydd, felly gawn ni weld be fydd yr effaith fwy hirdymor, os ydi’r brechu’n helpu.

“Mae yna gydymdeimlad i [dafarnwr y Glôb] am wneud penderfyniad mor anodd, yn enwedig ar benwythnos y gêm, a phethau mor anodd.

“Llwyr barch iddo fo am wneud y penderfyniad, a gobeithio fydden ni gyd yn gallu cefnogi pan mae o’n teimlo’n hyderus i ailagor eto.”