Mae’n edrych yn debyg fod ymgyrch i godi arian i dalu am adolygiad cyfreithiol i’r penderfyniad i ddyblu treth y cyngor ar dai haf yng Ngwynedd wedi mynd yn ffliwt.

Cafodd apêl i godi arian i dalu am her gyfreithiol ei sefydlu ar y We ym mis Ebrill, yn sgil honiadau fod premiwm 100% Cyngor Gwynedd – sydd wedi’i ganiatáu’n llawn dan ddeddfau Llywodraeth Cymru – yn “gwahaniaethu” ac wedi’i “seilio ar deimladau gwrth-Seisnig”.

Er iddyn nhw godi dros £8,000 i dalu am yr her gyfreithiol – mwy na tharged cychwynnol yr ymgyrch, sef £6,300 – mae Newyddion S4C wedi gweld neges gan y trefnwyr at y cyfranwyr yn dweud fod risgiau’r her gyfreithlon “yn fwy na’r siawns o lwyddo, a dydyn ni ddim yn bwriadu mynd â’r mater yn bellach fel grŵp”.

Roedd y neges hefyd yn dweud fod siawns yr ymgyrchwyr o sicrhau adolygiad cyfreithiol “rhwng 50% a 60% – ond gyda risg o orfod talu costau cyfreithiol sylweddol”.

Y sefyllfa

Cafodd premiwm 100% ei gyflwyno gan Gyngor Gwynedd ym mis Mawrth mewn ymdrech i wneud prynu ail dŷ yn llai poblogaidd.

Mae’r dreth hefyd yn berthnasol i bobol leol sy’n berchen ail eiddo yng Ngwynedd.

Mae gan y sir y ganran uchaf o ail dai yng Nghymru, 11%, gydag ofnau fod y gostyngiad parhaus yn y stoc dai yn ei gwneud yn anodd i bobol leol fedru byw yn lleol.

Dangosa ymchwil y cyngor sir lleol fod 60% o breswylwyr Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, ond roedd yr ymgyrch CrowdJustice ar y We yn honni fod y premiwm yn “effeithio’r rhai sydd ddim yn Gymraeg yn anhafal”.

Pwysleisia Cyngor Gwynedd nad bwriad y dreth yw “cosbi perchnogion ail dai”, ac mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i gynghorau Cymru godi premiwm treth cyngor o hyd at 100% ar ail gartrefi a thai sy’n wag am gyfnodau hir.

Dim ond cynghorau Gwynedd ac Abertawe sydd wedi dewis codi’r ganran lawn ar y funud.

“Annheg ac afresymol”

Mae nifer o bobol yn wynebu gorfod talu £3,600 y flwyddyn mewn treth yn unig ar gyfer eiddo â dwy lofft, meddai Anthony Chancellor, a sefydlodd y dudalen i godi arian.

“Cafodd y penderfyniad ei wneud yn annheg, afresymol, a gan wahaniaethu. Rydyn ni’n credu fod y penderfyniad yn seiliedig ar deimladau gwrth-Saesnig,” meddai.

“Cafodd ychydig iawn o ystyriaeth ei roi i’r effaith ar bobol hŷn, rhai sy’n dioddef gydag anableddau, neu rai sydd ar incwm sefydlog.”

“Blaenoriaeth”

Ar hyn o bryd mae’r rheolau’n golygu fod ail dŷ’n gymwys i dalu cyfraddau di-ddomestig, yn hytrach na threth cyngor, os yw e ar gael i’w osod yn fasnachol fel llety hunanarlwyo am 140 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn, ac yn cael ei osod am o leiaf 70 diwrnod.

Mae hyn, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel arfer yn arwain at fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, ac yn golygu nad ydyn nhw’n gorfod talu dim trethi i bwrs arian cyhoeddus Cymru.

“Mae’r Cyngor wedi gwneud hi’n flaenoriaeth i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, ac i helpu i sicrhau cyflenwad addas o dai fforddiadwy i bobol leol fyw yn eu cymunedau drwy’r Strategaeth Dai,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Ar ôl trafodaethau manwl, ac ystyried a chydbwyso’r holl ffactorau perthnasol gan gynnwys canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a goblygiadau’r penderfyniad, penderfynodd cynghorwyr Gwynedd i gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail dai, ac eiddo sy’n wag am gyfnodau hir, o 50% i 100% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 mewn cyfarfod Cyngor llawn ar 4 Mawrth.

“Mae disgwyl i’r penderfyniad hwn greu £3 miliwn ychwanegol mewn incwm o’r dreth cyngor, a fydd yn cael ei glustnodi ar gyfer cyflwyno Strategaeth Dai’r Cyngor.”