Mae Boris Johnson wedi derbyn ymddiheuriad Matt Hancock am dorri rheolau ymbellhau cymdeithasol ar ôl i luniau gael eu cyhoeddi ohono’n cusanu cymhorthydd yn yr adran Iechyd yn San Steffan.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd yn glir nad yw’n bwriadu ymddiswyddo yn dilyn adroddiadau ei fod yn cael affêr gyda Gina Coladangelo, a benodwyd ganddo’r llynedd.

Ac mae Boris Johnson wedi derbyn ei ymddiheuriad a chau pen y mwdwl ar y mater, meddai.

“Rydych wedi gweld datganiad yr Ysgrifennydd Iechyd, felly byddwn yn eich cyfeirio at hynny,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog ar ôl i ohebwyr ofyn pam fod Matt Hancock wedi cadw ei swydd.

“Does gen i ddim byd pellach i’w ychwanegu,” ychwanegodd y llefarydd.

“Nododd yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn derbyn ei fod wedi torri’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol ac mae wedi ymddiheuro am hynny.

“Mae’r Prif Weinidog wedi derbyn ymddiheuriad yr Ysgrifennydd Iechyd ac yn ystyried bod y mater ar ben.”

Pan ofynnwyd a oedd gan Boris Johnson “hyder llawn” yn Matt Hancock, atebodd y llefarydd: “Oes.”

Mewn datganiad byr, dywedodd Matt Hancock ei fod yn “ymddiheuro” ei fod wedi siomi pobol, ond ei fod yn dal i ganolbwyntio ar ei swydd a mynd i’r afael â’r pandemig.

“Rwy’n parhau i ganolbwyntio ar weithio i gael y wlad allan o’r pandemig hwn, a byddwn yn ddiolchgar am breifatrwydd i’m teulu ar y mater personol hwn.”

Ond mae Llafur yn dweud fod ei safle wedi dod yn “anobeithiol o anghynaladwy” gan alw ar Boris Johnson i’w ddiswyddo.

Cyhoeddodd The Sun ddelweddau, a gipiwyd o ffilm CCTV, o Matt Hancock gyda Gina Coladangelo a gafodd eu cymryd ar 6 Mai ym mhencadlys yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bu i’r Ysgrifennydd Iechyd gyflogi Gina Coladangelo fel cynghorydd di-dâl ar gytundeb chwe mis ym mis Mawrth y llynedd, cyn ei phenodi’n gyfarwyddwr anweithredol yn yr adran.

Mae Matt Hancock, a gyfarfu â Gina Coladangelo ym Mhrifysgol Rhydychen lle bu’r ddau ohonynt yn gweithio ar yr orsaf radio myfyrwyr, wedi bod yn briod â’i wraig Martha ers 15 mlynedd ac mae ganddynt dri o blant.

Gina Coladangelo yw cyfarwyddwr marchnata a chyfathrebu’r cwmni Oliver Bonas, manwerthwr Prydeinig a sefydlwyd gan ei gŵr, Oliver Tress.

“Dylai Boris Johnson ei ddiswyddo”

Dywedodd cadeirydd y Blaid Lafur Anneliese Dodds mewn datganiad: “Os yw Matt Hancock wedi bod yn cynnal perthynas gyfrinachol gyda chynghorydd yn ei swyddfa – a benodwyd ganddo’n bersonol i rôl sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwr – mae’n amlwg yn cam-drin ei bŵer.

“Mae ei safbwynt yn anobeithiol o anghynaladwy. Dylai Boris Johnson ei ddiswyddo.”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey ar Twitter: “Y rheswm y dylai Matt Hancock ymddiswyddo yw ei fod yn Ysgrifennydd Iechyd gwarthus, nid oherwydd ei fywyd preifat.

“O’r sgandal Cyfarpar Diogelwch Personol, yr argyfwng yn ein gwasanaeth gofal a’r system Brofi ac Olrhain anghredadwy o wael, mae wedi methu’n llwyr.”