Mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn disgwyl i frig y drydedd don o’r coronafeirws ddigwydd ddiwedd fis Gorffennaf yng Nghymru.

Dywedodd fod disgwyl i’r nifer o gleifion yn cael eu derbyn i ysbytai, ynghyd â nifer y marwolaethau, fod ar eu hanterth ym mis Awst

Mae achosion covid ar eu huchaf ymysg pobol ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd, meddai’r Prif Weinidog wrth annerch cynhadledd i’r Wasg heddiw (25 Mehefin).

Amrywiolyn Delta sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion hynny, gyda’r gyfradd mewn achosion ar ei huchaf yn y gogledd.

Mae Cymru dal tua phythefnos i dair wythnos ar ôl yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr a’r Alban o ran lledaeniad yr amrywiolyn Delta.

Petae Cymru’n gweld twf tebyg i Loegr, “byddai pwysau ar wasanaethau”, meddai Mark Drakeford wrth ddweud fod Covid-19 yn “effeithio ar ysgolion a chartrefi gofal” eto.

Y drydedd don

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod amrywiolyn Delta rhwng 40% ac 80% yn fwy trosglwyddadwy na’r amrywiolyn Alffa – a adnabyddir hefyd fel amrywiolyn Caint – a oedd yn gyfrifol am y mwyafrif o achosion yn ystod y don ddiwethaf yn y gaeaf,” meddai Mark Drakeford.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i fodelu’r hyn allai ddigwydd nesaf yng Nghymru.

“Mae hyn yn awgrymu ei bod hi’n debyg i’r brig ddigwydd ddiwedd mis nesaf.

“Os yw’r don yma’n dilyn yr un patrwm, rydyn ni’n disgwyl gweld derbyniadau i ysbytai a marwolaethau ar eu huchaf ym mis Awst,” ychwanegodd.

“Be dydyn ni ddim yn gwybod yw effaith cyfraddau brechu uwch, a faint mae’r berthynas rhwng heintiadau a derbyniadau i ysbytai wedi’i gwanhau.”

Yn ôl y Prif Weinidog, mae’r modelu’n awgrymu mai’r sefyllfa fwyaf tebygol yw y bydd 900 o dderbyniadau i ysbytai rhwng Mehefin a diwedd Awst, a hyd at 200 o farwolaethau.

Mae achosion ar eu huchaf ymhlith pobol ifanc, gyda bwlch mawr rhwng yr achosion ymysg pobol dan 25 oed a phobol dros 60 oed.

“Yng ngogledd Cymru, lle mae achosion ar eu huchaf, mae’r gyfradd bron i saith gwaith yn uwch ar gyfer pobol dan 25 yn Sir y Fflint na dros 60 oed,” meddai Mark Drakeford.

Brechlynnau

Mae bron i 9 ymhob 10 person dros 65 oed, a gweithwyr gofal iechyd a phobol sy’n byw mewn cartrefi henoed, wedi cael dau ddos o’r brechlyn.

“Mae mwy na 85% o bobol rhwng 55 a 64 oed wedi cael dau ddos,” ychwanegodd y Prif Weinidog.

“Mae yna beth ymchwil cadarnhaol sy’n dangos fod brechlynnau yn helpu i atal salwch difrifol, er gwaetha’r cyflymder lledaenu amrywiolyn Delta.”

Dywedodd fod nifer y bobol sy’n derbyn y brechlyn yng Nghymru yn “anhygoel,” ond fod “arwyddion bach o betrusder” ymysg pobol rhwng 30 a 39 oed.

Pwysleisiodd ei bod hi dal yn bwysig i bobol gymryd eu hail ddos, “parhau i ddweud ‘ie’ i’r brechlyn”, a bydd hanner miliwn o ddosys ychwanegol yn cael eu rhoi yn y system dros y pedair wythnos nesaf i gyflymu’r rhaglen.

“Dyddiadau artiffisial”

Mae hi’n rhy fuan i osod dyddiad ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, meddai Mark Drakeford, gan ddweud ei bod hi “ddim yn beth call gosod dyddiadau artiffisial” fel y rhai yn Lloegr a’r Alban.

“Rydych chi wedi clywed fi’n dweud fod achosion covid yn cynyddu, ac yn cynyddu’n sydyn,” meddai.

“Mae yna amrywiolion eraill mewn rhannau eraill o’r byd rydyn ni’n bryderus yn eu cylch.

“Does yna ddim sicrwydd y bydd pethau’n well mewn tair wythnos er rydyn ni’n parhau i fod yn obeithiol y bydden nhw.

“Dyna pam ei bod hi’n gall peidio gosod dyddiadau artiffisial, fel dw i’n eu gweld nhw, fel nad oes rhaid diystyru nhw a dechrau eto.”

Dywedodd y bydd adolygiad arall o’r rheolau’n digwydd mewn tair wythnos, gan ddilyn yr un patrwm.

Lefel 1

Os yw materion yn parhau’n gadarnhaol, gallai’r rheolau ar fesurau megis gwisgo masgiau ac ymbellhau cymdeithasol droi’n ganllawiau, yn hytrach na chyfraith, pan fydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn.

“Pan fydd pawb wedi cael dau ddos bydd gennym ni well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y brechlyn a mynd yn sâl a mynd i’r ysbyty,” meddai Mark Drakeford.

“Felly gadewch i ni gymryd golwg gadarnhaol am funud, oherwydd o’r hyn rydyn ni’n ei ddeall o’r ystadegau ar y funud mae hi’n edrych yn fwy cadarnhaol.

“Ar y pwynt hynny, byddai’r pethau rydyn ni wedi ailagor dan [gyfyngiadau] lefel un wedi ailagor, byddai pobol yn gallu ailagor mewn niferoedd mwy tu mewn, byddem ni wedi ailagor rhannau eraill o’r economi, byddai pobol yn gallu cymysgu mewn niferoedd mwy.”

Teithio rhyngwladol

Dyw cyngor Llywodraeth Cymru ynghylch teithio dramor, a mynd i gemau’r Ewros heb newid, meddai’r Prif Weinidog, er ei fod e’n “deall rhwystredigaeth” cefnogwyr.

Pan ofynnwyd iddo a ydi e wedi gwneud ymdrechion i ganiatáu i gefnogwyr gael mynediad i Ddenmarc, dywedodd mai cyngor Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yw aros yng Nghymru i wylio’r gemau.

Mae gan gefnogwyr Denmarc hawl i deithio i’r wlad, cyn belled â’u bod nhw’n gadael o fewn deuddeg awr.

Gan fod Denmarc yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac ardal Schengen, mae eithriadau’n gallu cael eu gwneud i’r rheolau ar deithio, a’r angen i hunanynysu.

Nid yw hynny’n bosib i gefnogwyr Cymru gan nad yw’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd mwyach.