Amcangyfrifir bod poblogaeth y Deyrnas Unedig wedi cynyddu 0.4% yn y deuddeg mis hyd at Fehefin 2020, sef y cynnydd blynyddol isaf mewn bron i ddau ddegawd, gan adlewyrchu ton gyntaf Covid-19.
Mae’n debyg fod cyfanswm o 67.1 miliwn o bobol yn byw yn y Deyrnas Unedig ganol llynedd, cynnydd o 66.8 miliwn ers canol 2019.
Bu cynnydd o 284,000 o bobol mewn blwyddyn, sef y cynnydd isaf mewn deuddeg mis ers 2001.
Dangosa ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod mwy o farwolaethau wedi digwydd yng nghanol 2020 nag yng nghanol yr un flwyddyn arall ers 1986.
Roedd ton gyntaf Covid-19, a ddechreuodd yng ngwledydd Prydain ym mis Mawrth 2020, yn gyfrifol am 55,000 o’r marwolaethau hyn.
Cafodd Covid-19 effaith ar fewnfudo i Brydain, gydag amcangyfrif bod 11% yn llai o bobol yn symud i wledydd Prydain o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’n debyg fod hyn yn adlewyrchu’r cyfnodau clo a gafodd eu cyflwyno ar draws gwledydd Prydain ym mis Mawrth.
Rhannu’n “ddwy ran glir”
“Gellir rhannu’r deuddeg mis hyd at Fehefin 2020 yn ddwy ran glir: yr wyth mis cyntaf, pan oedd genedigaethau, marwolaethau a phatrymau ymfudo yn debyg i dueddiadau blynyddoedd diweddar; a’r pedwar mis o fis Mawrth ymlaen, pan darodd ton gyntaf coronafeirws,” meddai Neil Park, o uned amcangyfrif poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Mae rhai o effeithiau cliriaf y pandemig i’w gweld drwy’r cynnydd yn nifer y marwolaethau a gostyngiad yn nifer y symudiadau o fewn y Deyrnas Unedig.”
Bu 700,700 o enedigaethau yn y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn hyd at ganol 2020, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dyma’r nifer isaf mewn unrhyw flwyddyn ers 2003, tra bod nifer y marwolaethau yn yr un cyfnod yn 669,200.