Clystyrau o achosion Covid-19 ymysg pobol ifanc a phlant sy’n bennaf gyfrifol am drydedd don o’r corona, meddai un meddyg o’r gogledd.

Dywedodd Dr Dyfan Jones, sy’n feddyg teulu yn Ninbych, wrth BBC Cymru fod yr achosion yn deillio “bron yn unig” o bobol ifanc.

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod Cymru tua dwy neu dair wythnos ar ôl Lloegr a’r Alban o ran y cynnydd mewn achosion, a chadarnhaodd Dr Chris Jones ddechrau’r wythnos fod Cymru yn y cyfnod cyn brig y drydedd don.

Amrywiolyn Delta sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion newydd, gyda’r cyfraddau ar eu huchaf yn Sir y Fflint (100 achos i bob 100,000 person), Conwy (88.7), a Sir Ddinbych (72.1).

“Cynnydd dramatig” yn lleol

“Ar ôl cyfnod tawel iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd dramatig mewn achosion yn lleol,” meddai Dr Dyfan Jones wrth y BBC.

“Mae’n ddiddorol nodi fod hynny bron yn unig ymysg plant ifanc a phobol ifanc.

“Mae’n ymddangos felly, diolch byth, fod y brechlynnau, ac yn enwedig dau ddos o’r brechlyn, yn atal lledaeniad ar raddfa fawr ymysg y boblogaeth hŷn.”

Ychwanegodd fod rhaid i bobol fod yn ofalus a pharhau i gadw at y rheolau.

“Dw i’n meddwl fod y dystiolaeth ynghylch lledaeniad sydyn ymysg pobol ifanc yn pwysleisio’r cyngor i gadw at y rhagofalon a’r canllawiau, er mwyn trio lleihau’r lledaeniad tra rydyn ni’n trio gorffen y rhaglen frechu sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn llwyddiant enfawr, diolch am hynny.”

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Ddechrau’r wythnos, dywedodd Mark Drakeford fod Cymru tua dwy neu dair wythnos ar ôl Lloegr a’r Alban o ran y cynnydd mewn achosion.

Rhwng nawr a chanol Gorffennaf, bydd hanner miliwn o frechlynnau ychwanegol yn cael eu rhoi yn y system, gyda’r pwyslais ar ail ddosys.

Mae cynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen i 80% o holl boblogaeth Cymru gael imiwnedd rhag Covid-19 cyn i amrywiolyn Delta stopio lledaenu.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd bron i 90% o oedolion Cymru yn cynhyrchu gwrthgyrff yn yr wythnos yn dechrau ar 7 Mehefin – sy’n awgrymu eu bod nhw naill ai wedi cael y brechlyn, neu wedi cael y feirws yn y gorffennol.

Er hynny, cafodd y nifer uchaf o achosion eu cofnodi ddoe ers mis Chwefror, gyda 438 yn profi’n bositif.

Ers dydd Llun (21 Mehefin), bu 209 achos o amrywiolyn Delta, 10 achos o amrywiolyn Alffa (Caint), ac un o amrywiolyn Beta (De Affrica) yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r gyfradd positifrwydd wedi codi i 2.8% hefyd, y lefel uchaf ers diwedd mis Mawrth, ac mae’r sylw nawr ar weld a yw’r brechlynnau wedi torri’r cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i ysbytai.

Annog pawb i ddiogelu Cymru dros yr haf

A Llywodraeth Cymru’n cyflwyno hanner miliwn o frechlynnau ychwanegol i’r system rhwng nawr a chanol Gorffennaf