Rhaid i 80% o boblogaeth Cymru gael imiwnedd rhag Covid-19 er mwyn i’r feirws stopio lledaenu, yn ôl gwyddonwyr.
Mewn papur gan Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, mae cynghorwyr gwyddonol yn amcangyfrif fod rhaid i 80% o’r holl boblogaeth – gan gynnwys plant dan 18 oed – “naill ai gael eu brechu neu eu heintio er mwyn atal y gadwyn barhaus o drosglwyddiad”.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 82.7% o oedolion Cymru’n cynhyrchu gwrthgyrff ddiwedd mis Mai.
Mae tua 70% o’r holl boblogaeth wedi cael o leiaf un dos o frechlyn Covid, a’r wythnos ddiwethaf, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod yna “faterion difrifol iawn” i’w hystyried ynghylch brechu plant.
Yn wahanol i Loegr, fydd Llywodraeth Cymru ddim yn gorfodi gweithwyr ym maes gofal i gael eu brechu, gan ddweud fod “y teimlad hwnnw o gymryd rhan yn y rhaglen yn wirfoddol yn bwysig iawn” ac yn “rhan o’r llwyddiant”.
“Cydbwysedd” am y tro
Wrth drafod yr ystadegau, dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Politics Wales y byddai angen cyfuniad o frechu a chyfyngiadau ar ar gyfer “y dyfodol rhagweladwy”.
“Mae’n gadael Cymru ddim yn dibynnu’n gyfan gwbl ar frechu fel yr unig beth allwn ni ei wneud i atal y coronafeirws rhag llethu’r Gwasanaeth Iechyd eto,” meddai wrth drafod y bwlch rhwng faint o’r boblogaeth sydd gan imiwnedd ar hyn o bryd a’r 80%.
“Yr ymbellhau cymdeithasol, gwisgo mygydau, golchi dwylo, mae’r holl bethau hynny yn gwarchod yn erbyn y coronafeirws, fel y brechlyn.
“I ddechrau, rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r rhaglen frechu er mwyn trio mynd mor agos i’r ffigwr 80% â phosib.
“Y mwyaf rydyn ni’n gwthio’r niferoedd sy’n cael eu brechu, y lleiaf o gyfyngiadau eraill y byddwn ni eu hangen, rydyn ni’n gobeithio.
“Ac am y tro, bydd yn gydbwysedd rhwng y ddau beth hynny.”
Mae cynghorwyr gwyddonol yng Nghymru’n credu fod y Deyrnas Unedig “yn y cyfnod cyn brig trydedd don”, ac mae lle i gredu fod wyth ymhob deg o achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru yn ymwneud ag amrywiolyn Delta, meddai’r Prif Weinidog ddydd Gwener.