Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod wyth o bob 10 oedolyn (82.7%) yng Nghymru ar aelwydydd preifat wedi profi’n bositif am wrthgyrff Covid-19 yn yr wythnos ddechreuodd ar 17 Mai.

Mae hyn yn gynnydd o tua dwy ran o dair o oedolion, neu 66.8%, fis ynghynt.

Mae presenoldeb gwrthgyrff Covid-19 yn awgrymu bod rhywun wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi cael ei frechu.

Yr amcangyfrif diweddaraf ar gyfer yr Alban yw ychydig dros saith o bob 10 oedolyn (72.6%), i fyny o tua chwech o bob 10 (59.9%).

Yr amcangyfrif yng Ngogledd Iwerddon yw wyth o bob 10 oedolyn (79.9%), i fyny o tua saith o bob 10 (68.8%).

Amcangyfrifir bod wyth o bob 10 oedolyn (80.3%) ar aelwydydd preifat yn Lloegr yn debygol o fod wedi profi’n bositif am wrthgyrff Covid-19 yn yr wythnos yn dechrau Mai 17.

Mae hyn i fyny o saith o bob 10, neu 69.9%, fis ynghynt.

Daw hyn wrth i Brif Swyddog Meddygol Cymru ddweud fod angen i’r cyhoedd “ymddwyn yn synhwyrol a gofalus” er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach ar draws Cymru.

Mae nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru wedi bron a dyblu o fewn wythnos i 178.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai’r amrywiolyn fod wedi dechrau trosglwyddo yn y gymuned ac mae’n annog pobol i gael eu brechu a chadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol.