Mae mwyfwy o bobol yn agor eu llygaid i’r argyfwng hinsawdd, ond mae yna “lawer o bobol” o hyd sydd ddim yn deall “gwir natur” y broblem.
Dyna farn Philippa Gibson, ymgyrchydd amgylcheddol a threfnydd gwrthdystiad a fydd yn cael ei gynnal yn Aberteifi, Ceredigion, heddiw (dydd Mercher, Mehefin 9).
Bydd grŵp ymgyrchu amgylcheddol Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) yn cynnal llu o ddigwyddiadau ledled Cymru heddiw er mwyn tynnu sylw at fygythiad cynhesu byd eang ar gymunedau arfordirol.
Mae’r digwyddiadau yma yn rhan o ymdrech ehangach y grŵp ledled y Deyrnas Unedig, er mwyn rhoi pwysau ar wleidyddion i weithredu. ‘Gwneud y Don’ yw enw’r ymdrech.
Yn siarad â golwg360 mae Phillipa Gibson yn nodi bod ymwybyddiaeth gyhoeddus o heriau’r argyfwng hinsawdd yn gwella, ond bod yna anwybodaeth o hyd.
“Mae llawer mwy o bobol yn gwybod ac yn gallu gweld beth sy’n digwydd,” meddai.
“Ac mae pobol yn gwneud y cysylltiad rhwng newid hinsawdd a beth sy’n digwydd i dai a busnesau, ac yn y blaen, gyda’r llifogydd yma [a fu y llynedd].
“Ond hefyd mae yna lawer o bobol sydd ddim yn sylweddoli a ddim yn deall beth yw gwir natur yr argyfwng.
“Dyw argyfwng ddim jest yn air di-ystyr – mae’n air mae gwyddonwyr yn defnyddio. Mae’n ddifrifol, ac mae’n cyflymu.”
Cafodd Cymru ei tharo yn wael gan gyfres o stormydd y llynedd a achosodd llifogydd difrifol ledled y wlad. Cysylltir hyn â’r argyfwng hinsawdd.
Wrth fyfyrio ar y llifogydd yma mae Philippa Gibson yn eu galw’n “frawychus” ac mae’n rhybuddio y bydd yr argyfwng yn esgor ar dywydd “llawer mwy eithafol” yn y dyfodol.
Diwrnod o brotestio… a bach o sbort
Oherwydd y cyfyngiadau covid, dyw Gwrthryfel Difodiant ddim wedi medru cynnal protestiadau mawr dros y misoedd diwethaf.
Mae Phillipa Gibson yn dweud y bydd yn braf medru cynnal digwyddiad cyhoeddus heddiw. Mae hefyd yn awyddus pwysleisio nad yw’r grŵp ymgyrchu wedi bod yn segura.
Dros y misoedd diwethaf mae Gwrthryfel Difodiant wedi parhau i gynnal cyfarfodydd Zoom, ac mae’n debyg bod rhai wedi bod yn ‘gwrthryfela’ ar eu pennau eu hunain.
“Dydyn ni ddim wedi diflannu,” meddai, “ond efallai dydyn ni ddim wedi bod mor weladwy.”
Mae’n nodi nad gwrthdystio yn unig y gwelwn heddiw, ac y bydd elfen o hwyl i’r cyfan – er bod y neges yn un ddigon difrifol.
“Un peth sy’n werth pwysleisio yw nad diwrnod o brotestio yw hyn yn unig,” meddai. “Mae’n ddiwrnod o hwyl hefyd. Ac mae pobol eisiau hynny. Mae’n ddiwrnod i’r teulu i gyd.
“Felly bydd llawer o bethau ar gyfer plant a theuluoedd. Bydd bach o sbort yn ogystal â chario’r neges bwysig a difrifol iawn yma.”
Gwneud y Don
Bydd gwrthdystiadau ‘Gwneud y Don’ yn cael eu cynnal rhwng Mehefin 7 a Mehefin 10 ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, gyda 80 cymuned yn cymryd rhan.
Mae’r cyfan yn cyd-daro gydag uwchgynhadledd G7 (cyfarfod rhwng Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan, y Deyrnas Unedig, a’r Unol Daleithiau) yng Nghernyw.
A’r nod yw rhoi pwysau ar arweinwyr y gwledydd yma i flaenoriaethu mynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal dros y penwythnos.
Yng Nghymru mi fydd gwrthdystio ym Mhenmaenmawr, Conwy; Borth, Aberystwyth ac Aberteifi, yng Ngheredigion; ac yn y Mwmbwls, Abertawe.
Bu gwrthdystio hefyd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.