Mae arweinwyr undebau ac aelodau seneddol wedi lleisio’u pryder am y ffordd yr aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r afael â’r ffrae ynghylch diogelwch Covid yn y DVLA.

Fe wnaeth yr Adran Drafnidiaeth ymyrryd er mwyn atal cytundeb a fyddai wedi dod â’r ddadl i ben, yn ôl y feirniadaeth.

Mae undeb y PCS wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Grant Shapps, yn gofyn am eglurhad.

Fel rhan o’r ddadl dros ddiogelwch, sy’n rhygnu ymlaen ers rhai misoedd, mae gweithwyr swyddfa’r DVLA yn Abertawe wedi streicio sawl tro.

Cafodd trydedd streic ei chynnal yr wythnos ddiwethaf, gyda gweithwyr yn galw am leihau nifer y staff sy’n gorfod gweithio ar y safle.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer mwy o weithredu, er bod yr DVLA yn dweud eu bod nhw wedi dilyn canllawiau swyddogol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw staff yn sâff.

“Newid mawr”

Yn ei lythyr at Grant Shapps, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y PCS fod yna “newid mawr” wedi bod yng nghyfeiriad y trafodaethau.

“Yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo, o gymryd fod y cytundeb wedi cael ei greu gyda swyddogion y DVLA a’r Adran Drafnidiaeth, yw ei fod wedi’i dynnu’n ôl ar eich cyfarwyddyd,” meddai Mark Serwotka.

“Dw i’n eich annog chi i roi’r cytundeb, a oedd bron yn gyflawn, yn ôl ar y bwrdd.”

Dywedodd Mark Serwotka fod gan yr undeb ddim dewis ond parhau i streicio.

“Pell o fod yn gadarnhaol”

Mae Chris Stephens, sy’n Aelod Seneddol dros yr SNP ac yn gadeirydd grŵp seneddol PCS, wedi ysgrifennu at Grant Shapps hefyd.

“Roedd yn ymddangos yn obeithiol fod yna gytundeb rhwng yr undeb a’r rheolwyr wedi’i chytuno arni a fyddai’n datrys hyn yn foddhaol,” meddai Chris Stephens.

“Ond nawr rydyn ni’n deall fod ymyrraeth gweinidogol yn cael ei grybwyll fel y rheswm dros dynnu’r cytundeb yn ôl yn sydyn – ac fel arall yn gwbl anesboniadwy – gan weithredu mewn ffordd sy’n bell o fod yn gadarnhaol.”

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Gweithwyr y DVLA yn mynnu “dim byd llai” na chael gweithio o adref

Huw Bebb

Staff yn “eistedd ar ticking time bomb” medd un o swyddogion undeb y PCS