Mae’r DVLA wedi dweud wrth golwg360 fod streic gan aelodau undeb y PCS yn debygol o achosi oedi o 6-8 wythnos wrth brosesu ceisiadau.

Mae aelodau’r undeb sy’n gweithio ar y safle yn Abertawe yn streicio oherwydd pryderon Covid, gan “fynnu dim byd llai” na chael gweithio o adref, ac mae’r undeb yn rhybuddio bod staff “yn eistedd ar ticking time bomb“.

Ddydd Mercher (Ebrill 7), cerddodd aelodau o undeb y PCS allan o’r gwaith tan ddoe (dydd Gwener, Ebrill 9), a hynny ar ôl i’r gweithwyr fethu â dod i gytundeb â’u cyflogwyr.

Mae’r PCS yn cydnabod y bu cynnydd yn y trafodaethau, ond maen nhw’n dweud bod diffyg camau pellach i leihau nifer y gweithwyr ar y safle am arwain at weithredu pellach.

Roedd Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, wedi cyhuddo’r DVLA o “fethu yn eu cyfrifoldeb i gadw staff yn ddiogel”.

“Ddylai’r un gwas sifil ddim gorfod mynd ar streic i sicrhau eu diogelwch yn y gweithle,” meddai.

‘Lle wyt ti’n dechrau?’

“Lle wyt ti’n dechrau?” meddai Macej Krzymieniecki, swyddog aelodau ifanc undeb y PCS yn asiantaeth drwyddedu cerbydau y DVLA yn Abertawe, wrth siarad â golwg360 am brofiadau gweithwyr a’r problemau oedd yn eu hwynebu yn y gwaith.

“Mae’n haelodau ni’n eistedd ar ticking time bomb fan hyn.

Dydyn ni ddim wedi cael gweithio o adref drwy gydol y pandemig er bod ein penaethiaid wedi bod yn gweithio o adref ers Mawrth 2020.

“Rydan ni wedi cael adegau lle mae staff yn eistedd gefn wrth gefn, fetr oddi wrth ei gilydd, ac roedd hynny yn iawn ac yn dilyn y rheolau – yn ôl y penaethiaid.

“Mae yno ddiffygion cyson wedi bod o ran glanhau a dyna wnaeth arwain at achosion (o’r coronafeirws) y llynedd yn enwedig yn y ganolfan gyswllt, lle’r ydw i wedi fy lleoli.

“Roedd o’n anochel y byddai achosion yn codi maes o law a dyna yn union ddigwyddodd.”

Aeth Macej Krzymieniecki yn ei flaen i ddweud bod y staff sydd ar streic yn “mynnu ein bod yn cael gweithio o adref”.

“Dydyn ni ddim eisiau cytuno i ddim byd llai na hynny,” meddai wedyn.

‘Esgusodion’

“Y peth ydi, rydan ni wedi cael dim byd ond esgusodion pam na allwn ni weithio o adref.

“I ddechrau, roedden nhw’n dweud wrthym nad oedd modd i ni weithio o adref oherwydd gwarchod data (data protection) – ond mae’r DVSA a’r HMRC yn cael gweithio o adref ac mae ganddyn nhw ddata llawer iawn mwy sensitif na ni.

“Maen nhw hefyd wedi honni bod yno broblemau gyda chymaroldeb technoleg gwybodaeth.

“Dw i ddim yn meddwl bod hynny yn ddigon da, dylai buddsoddiad a threfniadau fod wedi cael eu rhoi ar waith yn syth er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu gweithio o adref.

“Rydan ni’n cael yr argraff nad yw’r penaethiaid yn ymddiried mewn staff i weithio heb oruchwyliaeth.

“Ac fel y dywedais, dyw e ddim ddigon da.”

‘Dim dewis arall’

Doedd “dim dewis arall” gan staff ond streicio ar ôl i undeb y PCS fethu a dod i gytundeb â’r DVLA ar ôl sawl cyfarfod, yn ôl Macej Krzymieniecki.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig nodi nad yw’r sefyllfa hon wedi ymddangos allan o nunlle, doedd dim dewis arall ond streicio,” meddai.

“Mae’r ffaith ei bod hi wedi dod i hyn yn dyst i’r fath o ddirmyg rydan ni’n ei wynebu.

“A dyna pam mae’r streic môr gryf. . . fyddai yna ddim cymaint o gefnogaeth â hyn pe bai’n haelodau yn credu bod ffordd arall o ddatrys y sefyllfa.

“Ond mae pawb yn gwybod nad yw’r asiantaeth yn gwrando, dydyn nhw ddim eisiau clywed ein safbwynt ni a dyna pam mae yno gymaint o gefnogaeth â hyn i’r streic.”

‘600 achos o Covid-19 ers mis Medi’

Dywed Sarah Evans, Cadeirydd Cangen undeb y PCS yn Abertawe, fod dros 600 achosion o Covid-19 wedi bod yno ers mis Medi diwethaf a bod un aelod o staff wedi marw.

“Mae staff y DVLA yn cael eu gorfodi i fynd ar streic oherwydd nad ydyn yn teimlo bod eu hiechyd a diogelwch yn cael ei gymryd o ddifrif,” meddai.

“Mae’r DVLA yn gwrthod lleihau’r niferoedd ar y safle ac yn galw dros 2,000 o staff i mewn gwaith bob dydd.

“Rydan ni wedi gweld yr achosion mwyaf yn y gweithle yn y Deyrnas Unedig ac mae rheolwyr y DVLA yn dal i wrthod lleihau’r niferoedd ar y safle.

“Nid oedd gennym unrhyw opsiwn arall ond strecio ac mae dros 1,.400 o aelodau bellach yn cymryd rhan yn y streic.”

Streicio yn achosi i geisiadau “gymryd 6-8 wythnos i’w prosesu”

Mae’r DVLA wedi dweud wrth golwg360 fod y streic yn achosi i geisiadau “gymryd 6-8 wythnos i’w prosesu”.

Ychwanega’r asiantaeth fod ganddyn nhw dros 2,200 o staff yn gweithio gartref ac mai’r unig bobol ar y safle yw staff gweithredol mewn swyddi nad oes modd eu gwneud gartref.

Ac yn ôl y DVLA, mae £3.6m wedi cael ei wario ar wneud eu safleoedd yn Covid-ddiogel, gan gynnwys rhoi adeilad newydd ar brydles i greu 240 o ddesgiau ychwanegol i gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol,

“Mae diogelwch ein staff yn hollbwysig, ac rydym wedi addasu ein mesurau yn barhaus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn parhau i wneud hynny,” meddai llefarydd ar ran y DVLA.

“Ar hyn o bryd, nid oes un aelod o staff yn ynysu am 10 niwrnod, allan o weithlu o fwy na 6,000.

“Mae’r DVLA wedi sicrhau eu bod wedi dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ymhob pwynt trwy gydol y pandemig ar ôl gweithio’n gyson gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, iechyd yr amgylchedd a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno amrywiaeth eang o fesurau diogelwch.

“Mae hyn wedi galluogi’r DVLA i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled y Deyrnas Unedig mewn modd Covid-ddiogel.”

 

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Gweithwyr y DVLA am streicio am bedwar diwrnod

Fe ddaw yn sgil pryderon am ddiogelwch gweithwyr o ganlyniad i Covid-19