Fe fydd cannoedd o weithwyr y DVLA yn Abertawe yn streicio am bedwar diwrnod o heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6) yn sgil pryderon am eu diogelwch o ganlyniad i Covid-19.

Bydd aelodau undeb y PCS yn cerdded allan o’r gwaith tan ddydd Gwener (Ebrill 9) ar ôl i weithwyr fethu â dod i gytundeb â’u cyflogwyr.

Staff sydd heb fod yn gweithio gartref yw’r rhai sy’n streicio, ac maen nhw’n bygwth gweithredu ymhellach os na fydd gwelliannau’n cael eu gwneud i’r gweithle, gan gynnwys gostwng nifer y staff sy’n gweithio ar y safle.

Er gwaethaf clwstwr sylweddol o achosion y llynedd, dywed y DVLA eu bod nhw wedi dilyn y gweithdrefnau cywir.

Dywed y DVLA fod y streic yn debygol o arwain at oedi wrth brosesu ceisiadau papur, ond y dylai gwasanaethau ar-lein barhau yn ôl yr arfer.

Mae’r PCS yn cydnabod y bu cynnydd yn y trafodaethau, ond maen nhw’n dweud bod diffyg camau pellach i leihau nifer y gweithwyr ar y safle am arwain at weithredu pellach.

Yn ôl y cytundeb, bydd mwy na 300 o ddesgiau’n cael eu symud, bydd asesiadau risg 300 o weithwyr sydd wedi’u hanfon adref yn cael eu hadolygu, a bydd cytundeb pellach ynghylch y ffordd ymlaen.

Ymateb

Mae Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol y PCS, yn cyhuddo rheolwyr y DVLA o “fethu yn eu cyfrifoldeb i gadw staff yn ddiogel”.

“Ddylai’r un gwas sifil ddim gorfod mynd ar streic i sicrhau eu diogelwch yn y gweithle,” meddai.

“Mae’n annirnadwy fod y Llywodraeth hon yn caniatáu i’r DVLA beryglu bywydau ei staff drwy eu gorfodi nhw i mewn i weithle sydd yn amlwg ddim yn ddiogel.

“Rydym yn galw ar y DVLA a’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth [yn San Steffan] Grant Shapps i ddechrau trafodaethau ystyrlon â’r undeb, gan ein bod ni’n benderfynol na fyddwn ni ond yn anfon ein haelodau yn ôl i’r DVLA pan fo’r gweithle’n ddiogel eto.”

Wrth ymateb, dywed y DVLA eu bod nhw “wedi dilyn a chyflwyno canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob adeg drwy gydol y pandemig wrth i ni weithio i gyflwyno ein gwasanaethau hanfodol”.

Plaid Cymru yn rhoi “cefnogaeth lawn” i’r gweithwyr

Dywed Sioned Williams a Luke Fletcher, ymgeiswyr rhanbarthol Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru, eu bod “yn estyn ein hundod â gweithwyr DVLA Abertawe sy’n streicio am amodau gwaith diogel”.

“Ni ddylai unrhyw weithiwr orfod mynd ar streic i warantu ei ddiogelwch yn y gwaith ac mae’n ddyletswydd ar y cyflogwr – Llywodraeth San Steffan yn y pen draw – i ddarparu gweithle diogel i weithwyr,” meddai’r ddau mewn datganiad.

“Mae gan weithwyr y DVLA ein cefnogaeth lawn.”