Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud bod rhoi codiad cyflog i ofalwyr yn dangos bod cael y Blaid Lafur mewn grym yn gwneud gwahaniaeth.

Bydd Angela Rayner yn ymweld â Dyffryn Clwyd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6) gyda Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth iddo gyflwyno cynlluniau’r Blaid Lafur i roi bargen deg i ofalwyr.

Mae’r Blaid Lafur yn addo talu Cyflog Byw Gwirioneddol i ofalwyr pe baen nhw’n aros mewn grym wedi etholiadau’r Senedd.

Dywed Angela Rayner, a oedd yn arfer bod yn ofalwraig, fod y codiad cyflog yn dangos y gwahaniaeth rhwng cael y Blaid Lafur mewn grym yng Nghymru a’r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan.

Bydd Jason McClellan, ymgeisydd y Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd, yn ymuno â’r ddau heddiw er mwyn cyfarfod gofalwyr, clywed am eu profiadau, a diolch iddyn nhw am eu gwaith yn ystod y pandemig.

‘Dydi clapio ddim yn talu’r biliau’

“Pan wnaethom ni glapio i ofalwyr, roeddem ni’n golygu hynny,” meddai Angela Rayner cyn yr ymweliad.

“Fe wnaeth y Ceidwadwyr glapio er mwyn y camerâu, ond dydi clapio ddim yn talu’r biliau.

“Yng Nghymru, bydd llywodraeth Lafur yn rhoi codiad cyflog haeddiannol i’n gofalwyr arwrol.

“Nhw sydd wedi bod yn ymladd y feirws ofnadwy yma ar y rheng flaen, a chodiad cyflog yw’r peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu ar ôl popeth.

“Mae hyn yn rhywbeth personol i mi – rydw i’n gwybod fod gofalwyr yn gweithio’n galed, oherwydd rydw i wedi gwneud hynny.

“Fe weithiais i ochr yn ochr â gofalwyr a fyddai’n gwneud unrhyw beth i’r rhai yr oedden nhw’n gofalu amdanyn nhw, ac na chafodd gyflog na chydnabyddiaeth haeddiannol.

‘Haeddu mwy na chymeradwyaeth’

“Mae ein gofalwyr yn haeddu mwy na chymeradwyaeth – maen nhw’n haeddu codiad cyflog,” meddai Vaughan Gething.

“Rydw i wedi gweld y gwaith caled maen nhw’n ei wneud – yn ein hysbytai, yn ein cartrefi gofal a’n cymunedau.

“Drwy’r dydd, bob dydd, maen nhw’n edrych ar ôl y bobol fwyaf bregus gydag urddas a gofal.

“Dyna pam y byddai’r Blaid Lafur yng Nghymru yn diolch yn fawr iddyn nhw’n am eu gwaith hanfodol, ac yn sicrhau eu bod nhw’n derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol, petaem yn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.”

‘Bargen deg’

“Rydw i’n sefyll er mwyn rhoi bargen deg i bawb yn Nyffryn Clwyd,” esbonia Jason McClellan, ymgeisydd y Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd.

“Mae’r Blaid Lafur yn gwybod beth yw pwysigrwydd buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal – edrych ar ôl y rhai sy’n edrych ar ein holau ni.

“Gyda’n gilydd, fe symudwn ni Ddyffryn Clwyd yn ei flaen.”