Mae lle i gredu bod yr heddlu wedi dod o hyd i gorff Richard Okorogheye, dyn 19 oed sydd wedi bod ar goll o Epping Forest yn Llundain ers Mawrth 22.

Yn ôl adroddiadau, mae’r heddlu wedi rhoi gwybod i’w fam eu bod nhw’n credu mai ei gorff e yw’r un maen nhw wedi dod o hyd iddo.

Ddoe (dydd Llun, Ebrill 5), dywedodd Heddlu Llundain eu bod nhw wedi cael gwybod gan Heddlu Essex am y datblygiad, ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn pwll mewn coetir.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.

Mae’r heddlu’n dweud bod Richard Okorogheye wedi mynd mewn tacsi i ardal W2 yn Llundain i Loughton, ac fe gafodd ei weld ar gamerâu cylch-cyfyng yn cerdded yn yr ardal honno ar Fawrth 23.

Dydy e ddim wedi defnyddio’i ffôn ers iddo fe fynd ar goll, yn ôl yr heddlu.

Yn ôl ei fam, roedd e wedi bod dan gryn bwysau yn y brifysgol, ac wedi bod yn cysgodi rhag Covid-19 oherwydd salwch oedd yn ei wneud yn agored i niwed.