Mae’r meddyg a wnaeth ddatgan fod George Floyd wedi marw wedi tystio iddo gredu ar y pryd mai diffyg ocsigen wnaeth achosi i’w galon stopio.

Rhoddodd Dr Bradford Langenfeld, yr uwch feddyg a oedd ar ddyletswydd yn Hennepin County Medical Centre y noson honno, ei dystiolaeth ar ddechrau’r ail wythnos yn yr achos yn erbyn yr heddwas Derek Chauvin.

Dywedodd Dr Langenfeld fod calon George Floyd wedi stopio erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty.

Ar y noson, clywodd y meddyg fod parafeddygon wedi ceisio ei adfywio am tua hanner awr, ond na fu ymdrechion gan y cyhoedd na’r heddlu.

Dywedodd Dr Langenfeld ei bod yn “fwy tebygol” i galon George Floyd stopio curo yn sgil y diffyg ocsigen “nag oherwydd unrhyw bosibilrwydd arall”, wrth ystyried yr holl wybodaeth.

Bu farw George Floyd, 46, ar ôl i Derek Chauvin bwyso ei ben-glin yn erbyn ei wddf pan oedd e’n gorwedd a’i frest ar y palmant ac yn crio “alla i ddim anadlu”.

Roedd ganddo fe gyffion am ei arddyrnau ar y pryd.

Dynladdiad yn ôl arholwr meddygol y sir

Mae’r cyfreithwyr ar ran y diffynnydd yn dadlau bod Derek Chauvin yn gwneud yr hyn y cafodd ei hyfforddi i’w wneud, ac mai cymryd cyffuriau anghyfreithlon a chyflyrau iechyd wnaeth achosi marwolaeth George Floyd.

Fe wnaeth Dr Langenfeld gydnabod fod y cyffuriau fentanyl a methamphetamine, dau gyffur a gafodd eu darganfod yng nghorff George Floyd, yn gallu arwain at ddiffyg ocsigen.

Er hynny, mae adroddiad post-mortem arholwr meddygol y sir wedi dod i’r casgliad bod marwolaeth George Floyd yn achos o ddynladdiad.

Nododd y post-mortem fod fentanyl a methamphetamine yn system George Floyd, ond fe gofnododd mai ataliad y galon a chywasgu gwddf, yn ogystal ag ymyrraeth ddynol oed achos ei farwolaeth.

Wrth gael ei groesholi, dywedodd Dr Langenfeld fod lefelau carbon deuocsid George Floyd ddwywaith yn uwch na’r lefelau mewn person iach, a chytunodd y gallai hynny fod oherwydd problem anadlu.

Ond dywedodd fod lefelau uchel o garbon deuocsid yn arwydd o ataliad y galon.

Defnydd o rym

Yn ystod ail wythnos yr achos, mae disgwyl i’r erlynydd ganolbwyntio ar yr hyfforddiant gafodd Derek Chauvin ar sut i ddefnyddio grym.

Tystiodd Pennaeth Heddlu Minneapolis ddoe (dydd Llun, Ebrill 5), fod polisi’r heddlu yn dweud y dylai swyddogion ddefnyddio tactegau i dawelu’r sefyllfa er mwyn osgoi neu leihau’r defnydd o rym pan fo hynny’n rhesymol.

Er bod rhai pobol yn gallu bod yn fwy peryglus dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol, mae eraill yn “fwy bregus”, meddai’r erlyniad.

Cytunodd Medario Arrandondo, pennaeth yr heddlu, gan gydnabod fod rhaid ystyried hynny wrth i swyddogion benderfynu defnyddio grym.

Fe wnaeth Medario Arradondo, pennaeth heddlu croenddu cynta’r ddinas, ddiswyddo Derek Chauvin a thri heddwas arall ddiwrnod wedi marwolaeth George Floyd.

Yn fuan wedyn, fe wnaeth y ddinas atal yr heddlu rhag pwyso yn erbyn y gwddf a dal pobol wrth eu gyddfau.

Llun o George Floyd yn Minneapolis

Achos Derek Chauvin: ‘Naw munud 29 eiliad yw’r ffigwr i’w gofio’

Yr erlyniad yn dechrau eu hachos yn erbyn y cyn-blismon Derek Chauvin sydd wedi’i gyhuddo o ladd George Floyd