Mae newid hinsawdd ac adfer natur wrth galon maniffesto’r Blaid Werdd ar gyfer etholiadau’r Senedd fis nesaf.

Mae’r blaid yn lansio’u maniffesto heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6), gan addo “trawsnewid Cymru” drwy adeiladu 12,000 o gartrefi newydd i’r safonau amgylcheddol uchaf.

Byddai hefyd yn sefydlu cronfa er mwyn buddsodi mewn cymunedau lleol, gan greu miloedd o swyddi gwyrdd.

Maen nhw hefyd yn addo cynyddu’r mynediad at addysg bellach, sicrhau na fydd myfyrwyr yn talu ffioedd am radd gyntaf ac yn cynnig dyfeisiau electronig i’r holl blant sy’n dysgu o gartref.

Maen nhw hefyd am droi at “fodel cymunedol” ar gyfer gofal iechyd, a chynnig sicrwydd ariannol i bawb drwy gyflwyno incwm sylfaenol cynhwysol.

Dydy’r blaid erioed wedi ennill sedd yn y Senedd.