Bydd Gwobrau Ffermio Prydain yn dychwelyd eleni er mwyn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud o fewn amaethyddiaeth ar draws gwledydd Prydain.

Dyma’r nawfed tro i’r gwobrau gael eu cynnal, a byddan nhw’n dathlu amrywiaeth, arloesedd a hyblygrwydd ffermwyr ar draws pob sector, waeth beth yw maint a graddfa’r busnes.

Ochr yn ochr â’r sectorau llaeth, cig eidion, defaid, peirianneg ac aredig, bydd y gwobrau’n cydnabod grwpiau eraill megis ffermydd teuluol, myfyrwyr, a thechnoleg amaethyddol.

Eleni, bydd gwobr newydd yn cael ei rhoi i Arloeswr Cynaliadwyedd y Flwyddyn, ac yn cydnabod ffermwyr sy’n cydweithio â’r amgylchedd, ac yn gweithio tuag at ofalu am y Ddaear ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r gwobrau’n croesawu enwebiadau i fusnesau sydd wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio, boed hynny drwy ailddyfeisio eu busnes yn sgil Covid-19, defnyddio technolegau newydd, datblygu ffyrdd newydd o werthu cynnyrch neu addysgu’r cyhoedd am waith ffermwyr.

‘Deuddeg mis heriol iawn’

“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn, wrth i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd ar draws y wlad weithio’n galed ac arloesi er mwyn parhau i gynhyrchu bwyd Prydeinig,” meddai Sophie Throup, Pennaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, a Chyrchu Cynadliadwy Morrisons.

“Mae cymryd amser i gydnabod, dathlu a chael ein hysbrydoli gan bawb yn ein diwydiant a’n cymuned yn golygu ein bod ni’n falch i gefnogi Gwobrau Ffermio Prydain eto.”

Dywed golygydd y Farmers Guardian fod y gwobrau “yn bwysicach nag erioed o’r blaen eleni”, wrth i’r diwydiant geisio “adnabod arloesedd ac ymroddiad” ffermwyr ar “amser allweddol.”

“Trwy gydol y pandemig, ffermwyr sydd wedi bwydo’r genedl, siapio gofodau awyr agored i’w defnyddio ar gyfer adloniant, caniatáu gwyliau cefn gwlad a pharhau i adeiladau busnesau sydd wedi tyfu a ffynnu ar adeg digynsail,” meddai Ben Briggs.

“Yn groes i reddf, mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn amser o dyfiant i nifer o ffermydd.

“Dyna pam rydym ni am glywed eich straeon a rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i’ch busnesau, eich syniadau a’ch pobol.”

Blwyddyn eithriadol o dda i Gigyddion, yn ôl ystadegau newydd

“Fyswn i’n licio meddwl y gwneith hyn gario ymlaen”