Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw o’r newydd am ailgyflwyno lletygarwch awyr agored fel rhan o’r cynlluniau i lacio cyfyngiadau Covid-19.

Daw hyn yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mae Caerdydd a rhannau eraill o Gymru’n ddiweddar wrth i bobol ymgynnull yn y tywydd braf.

Yn ôl amserlen bresennol Llywodraeth Cymru, fydd lletygarwch awyr agored ddim yn dychwelyd tan Ebrill 26.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am weithredu cyn hynny.

‘Nifer o heriau’

“Rhaid i weinidogion Llafur ailfeddwl am letygarwch awyr agored,” meddai Russell George, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r cynulliadau enfawr rydyn ni’n eu gweld ledled Cymru’n dod â nifer o heriau, nid yn unig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, o daflu sbwriel i ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae am fod yn fis hir os ydyn ni’n cael tywydd braf, ac mae angen i weinidogion ystyried safleoedd trwyddedig awyr agored gyda’u hamryw gyfleusterau a phrofiad yn rhan o’r ateb, nid y broblem.

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych o ran cyfraddau achosion a’r rhaglen frechu, a byddai’n drueni i weld y gwaith hwn yn cael ei ddadwneud â chynulliadau nad oes modd eu rheoli’n ddiogel ac yn effeithiol.

“Mae gan leoliadau trwyddedig Cymru gryn brofiad o reoli cwsmeriaid ac maen nhw wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian i wneud eu cyfleusterau’n Covid-ddiogel.

“Gadewch i ni ymddiried mewn busnesau a sicrhau ein bod ni’n parhau ar drywydd ailagor Cymru mewn ffordd ddiogel y mae modd ei rheoli.”