Mae oddeutu 2,000 o swyddi a 200 o siopau Peacocks wedi cael eu hachub yn dilyn cytundeb rhwng prif swyddog gweithredol a chonsortiwm rhyngwladol.

Bydd Steve Simpson yn gyfrifol am reoli’r cwmni o hyn ymlaen, a’i obaith yw ailagor yr holl siopau ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio’n ddigonol.

Roedd y gadwyn yn rhan o’r Edinburgh Woollen Mill, cwmni Phillip Day oedd wedi mynd i’r wal fis Tachwedd y llynedd.

Mae ar Peacocks gryn dipyn o arian i Phillip Day o hyd, ond daeth credydwyr i gytundeb â fe.

Yn ôl adroddiadau, roedd Mike Ashley, perchennog Sports Direct, wedi mynegi diddordeb yn Peacocks ond daeth y trafodaethau i ben heb gytundeb.

Roedd gan gwmni Peacocks 400 o siopau ar ddechrau’r pandemig, ond cafodd cryn dipyn o swyddi eu colli a siopau eu cau o dan y cyfyngiadau.

Fe wnaeth y gadwyn fethu ag ymdopi ar y we o gymharu â chwmnïau eraill, ac fe arweiniodd hynny at fynd i’r wal yn y pen draw.