Mae merch 17 oed o Wrecsam sydd ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) wedi ennill gwobr Gohebydd Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru.

Ysgrifennodd Faith Dodd, sy’n astudio yng Ngholeg Cambria, 500 o eiriau am ei thaith OCD yn ogystal â chreu rhaglen ddogfen fer gyda’i thad.

Mae’r fideo wedi cael ei wylio dros 117,000 o weithiau ar dudalen Facebook BBC Cymru, ac wedi’i wylio llawer mwy o weithiau ar wefan y sianel.

“Gwelais y gystadleuaeth ar-lein a meddwl y baswn i’n rhoi cynnig arni,” meddai.

“Roedd yn gyfle i siarad am rywbeth sy’n bwysig iawn i mi, ond wnes i erioed feddwl y baswn i’n ennill.

“Mi ges i sioc pan ges i wybod, er ’mod i’n hapus iawn hefyd.

“Roedd yn rhaid i mi gadw’r peth yn gyfrinach am sbel, oedd yn anodd, yna bu’n rhaid i mi a ’nhad roi’r ffilm at ei gilydd yn gyflym – mae’r wythnosau diwethaf yma wedi bod yn rhai manig, ond mae’r ymateb wedi bod yn wallgof!”

Balch o allu rhannu ei stori

Dywed Faith Dodd, sydd hefyd yn llysgennad OCD-UK, ei bod yn falch o allu rhannu ei stori gyda chynifer o bobol.

Mae OCD yn effeithio ar fwy na 750,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig, ac mae Faith Dodd yn dweud bod ymgymryd â’r rôl wedi rhoi hwb i’w hyder.

“Mae llawer o’n meddyliau a’n gweithredoedd yn anwirfoddol; mae’n siwrnai gythryblus, a dydi’r broses o wella ddim yn un syml, a’r cyflwr yn un cyfnewidiol iawn,” meddai.

“Rydw i wedi ymdopi’n llawer gwell ers dod yn llysgennad gan ein bod ni’n sgwrsio fel grŵp ac yn gallu bod yno i’n gilydd, gan rannu straeon a chynnig cefnogaeth pan fo angen.”

“Camp anhygoel”

Mae Jayme Louise Edwards, darlithydd drama Faith Dodd, wedi ei chanmol am ei “champ anhygoel”.

“Mae hi wedi llwyddo i grynhoi mewn fideo byr ac ychydig gannoedd o eiriau beth mae miloedd lawer o bobol yn ei brofi bob dydd,” meddai.

“Ac mae ennill y wobr hon yn rhyfeddol, ac yn dyst gwirioneddol i’w chymeriad.

“Rydyn ni i gyd yn falch o Faith ac wedi’n hysbrydoli gymaint gan ei stori – llongyfarchiadau, mae hyn yn haeddiannol dros ben.”