Mae gweithiwr gofal 26 oed wedi ennill £1m ar gerdyn crafu (scratchcard) yr oedd hi wedi ei brynu yn ystod brêc o’i gwaith mewn cartref gofal.

Roedd Sara Thomas, sy’n hanu o Dreharris, wedi ymweld â siop leol ac wedi prynu cerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol wrth y til.

“Dydw i ddim yn eu prynu’n aml ond cefais un ychydig wythnosau’n ôl a dywedodd fy mhartner Sean wrtha i beidio â’u prynu, gan na fyddwn i byth yn ennill dim,” meddai.

“Fe wnes i ei grafu yn y gwaith a gweld fy mod wedi ennill £1m – cefais fy syfrdanu.

“Galwais ar y merched rwy’n gweithio gyda nhw ac roedden nhw’n meddwl mai tynnu coes oeddwn i.”

Neb yn ei choelio

Dywedodd Sara Thomas nad oedd yr un o’i chydweithwyr yn ei choelio, a doedd hithau ddim yn credu ei lwc chwaith.

“Gofynnais i un o’m cydweithwyr ffonio’r Loteri Genedlaethol i mi gan fy mod i’n meddwl mai rhyw fath o jôc oedd y cwbl a doeddwn i ddim am godi cywilydd arnaf fy hun,” meddai wedyn.

“Pan gadarnhaodd Camelot fy mod i wedi ennill, roedden ni i gyd yn sgrechian.”

Wedi’i dychryn, ffoniodd Sara Thomas ei phartner Sean Warner, 28, cyn ffonio ei thad, gyda’r un ohonyn nhw’n ei choelio hi chwaith.

“Dywedodd y ddau y dylwn adael y gwaith am y diwrnod ond roeddem yn brin o staff a doeddwn i ddim am siomi’r merched felly arhosais tan 7yh,” meddai.

‘Eisiau parhau i weithio’

Mae Sara Thomas wedi gweithio mewn cartref gofal tra ei bod hi’n addysgu ei merch bump oed yn ystod y pandemig, yn ogystal â gofalu am ei mab tair oed.

Ond er gwaethaf ei buddugoliaeth, dydi hi ddim yn bwriadu rhoi’r gorau i weithio.

“Rwy’n caru fy swydd ac eisiau parhau i weithio,” meddai.

“Mae’r cleifion yn gwerthfawrogi eich bod yno iddyn nhw pan na allan nhw weld eu teulu ac mae’n gysur mawr gwybod eich bod yn rhoi gwên ar eu hwynebau.

“Rydyn ni’n cael hwyl, ac mae’n braf gwybod eich bod yn helpu rhywun ac yn gwneud gwahaniaeth.

“Mae wedi bod yn anodd, ond fyddwn i ddim yn ei newid.”

Cynlluniau at y dyfodol

Aeth Sara Thomas yn ei blaen i ddweud y byddai’n hoffi dechrau busnes ryw ddydd.

“Gweithiwr trin gwallt cymwysedig ydw i, ac fe wnes i radd mewn busnes hefyd, ond pan ddisgynnais yn feichiog gyda fy merch, doeddwn i ddim yn gallu gorffen astudio,” meddai.

“Mae’r fuddugoliaeth hon wedi agor y drysau i lawer o gyfleoedd newydd i fi a fy nheulu.”

Mae’r cwpl yn bwriadu prynu cartref gyda gardd fawr i’w plant, a mynd â’r teulu ar wyliau pan fydd hynny’n bosibl.

Mae Sara Thomas hefyd yn bwriadu pasio ei phrawf gyrru, gan ychwanegu ei bod hi “am brynu Jeep i mi fy hun pan fyddai’n pasio fy mhrawf gyrru”.

“Ond mae’n debyg mai gyrru car Sean fydda’i am y tro, rhag ofn i’m lwc redeg allan a ’mod i’n malu’r car yn syth ar ôl ei brynu!”