Mae rheolwr siop Asda yn Wrecsam wedi cydnabod fod sylwadau un o’u gweithwyr am y Gymraeg yn “annerbyniol”.

Daw hyn wedi i’r gweithiwr ddod at y peiriant hunanwasanaeth yn y siop, gwneud sylw fod y peiriant yn Gymraeg, a’i newid yn ôl i Saesneg.

Yn ôl neges ar dudalen Twitter @nicfromwales, fe wnaeth y cwsmeriaid esbonio eu bod nhw wedi dewis y Gymraeg, a bod y gweithiwr wedi ateb gan ddweud “wel, nid oes neb yn ei ddeall.”

Er i’r cwsmeriaid egluro y bydd y peiriant yn newid yn ôl i Saesneg ar gyfer y cwsmer nesaf, fe wnaeth y ddynes duchan a cherdded i ffwrdd.

Mae rheolwr y siop yn Wrecsam wedi cydnabod fod y sylw yn “annerbyniol,” ac wedi siarad gyda’r aelod o staff oedd ynghlwm â’r mater.

Wrth ymateb i’r trydariad gwreiddiol, mae nifer o ddefnyddwyr eraill wedi tynnu sylw at brofiadau tebyg yn Asda, gyda’r Dr Einir Young yn awgrymu y dylai’r cwmni gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth tuag at ieithoedd, ynghyd â chwrteisi, fel rhan o’u strategaethau.

Daw hyn ddiwrnodau’n unig ar ôl i olygydd teithio The Times ddweud bod enwau lleoedd Cymraeg “mor anodd i’w deall â chath-yn-cerdded-dros-fysellfwrdd”.

Ymateb Asda

“Nid ydym ni byth yn bwriadu tramgwyddo, ac rydym ni’n ymddiheuro fod y cwsmer wedi cael profiad negyddol yn ein siop yn Wrecsam,” meddai llefarydd ar ran Asda wrth ymateb i gais gan golwg360 am ymateb.

“Gall cwsmeriaid ddewis eu hiaith ar y peiriannau hunanwasanaeth, ac rydym ni’n falch fod Mr. James wedi derbyn ein hymddiheuriad.”