Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud nad yw ei blaid am weld mwy o aelodau yn Senedd Cymru.
Dydi’r blaid ddim am weld Senedd Cymru yn cael mwy o bwerau chwaith.
Mae hefyd wedi galw ar Blaid Cymru a’r Blaid Lafur i fod yn “agored ac yn onest” gyda’r cyhoedd am eu safbwyntiau ar y mater.
Rhybuddia y gallai cefnogaeth gan y pleidiau hynny weld 30 yn fwy o wleidyddion yn Senedd Cymru – rhywbeth a fyddai’n costio £12m y flwyddyn yn ychwanegol i’r trethdalwr, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mwy o nyrsys, doctoriaid ac athrawon sydd ei angen ar Gymru, nid mwy o wleidyddion,” medd Andrew RT Davies.
“Y flaenoriaeth i unrhyw blaid ddylai adfer Cymru gydag economi gryfach ac ailadeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus, nid cynyddu maint y Senedd.
“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig un ffocws: datrys economi doredig Cymru fel y gallwn greu mwy o swyddi a helpu i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
“Byddem yn defnyddio’r arian hwnnw i ariannu mwy o nyrsys fel y gallwn ostwng yr amseroedd aros yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a recriwtio mwy o athrawon fel y gallwn wella ein system addysg a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant ledled Cymru.
“Dylai Llafur a Phlaid Cymru fod yn agored ac yn onest yn eu maniffestos am eu bwriadau gan fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir nad yw am gael mwy o bwerau, dim mwy o wleidyddion, dim mwy o drethi, a dim mwy o anhrefn cyfansoddiadol.
“Dim ond ffocws ar adeiladu Cymru well a sicrhau economi gryfach.”
Addewid y Ceidwadwyr yn dangos “sgeptigaeth tuag at ddatganoli”, medd Plaid Cymru
Wrth ymateb i addewid y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod hyn yn “enghraifft arall o sgeptigaeth arweinydd newydd y Torïaid tuag at ddatganoli”.
“Mae ei blaid, sy’n fodlon torri nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru a chipio ein pwerau, nawr eisiau tawelu llais pobol Cymru,” meddai.
“Dim ond Plaid Cymru fydd yn sicrhau’r gynrychiolaeth ddemocrataidd y mae Cymru yn ei haeddu – a’i angen.
“Mae hynny’n golygu mynnu mwy o bwerau ar frys i Senedd fwy, gan weithredu system bleidleisio decach ar ffurf STV (single transferable vote) a refferendwm sy’n ein galluogi i roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.”
Ymgyrchwyr yn galw ar wleidyddion i gefnogi diwygiadau i’r Senedd
Mae ymgyrchwyr yn galw ar wleidyddion o bob plaid i gefnogi diwygiadau i’r Senedd cyn etholiad mis Mai.
Wrth ymateb i safiad Andrew RT Davies a’r Ceidwadwyr Cymreig, dywed Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru, fod “dros ddau ddegawd wedi mynd heibio ers creu’r Senedd ac yn y cyfnod hwnnw mae ei gyfrifoldebau wedi tyfu ond nid yw ei niferoedd wedi tyfu”.
“Erbyn hyn mae ganddo fwy o bwerau a mwy o rôl ym mywydau bob dydd pobol ledled Cymru nag erioed o’r blaen,” meddai wedyn.
“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi dangos pwysigrwydd cynrychiolaeth gref yng Nghymru – a’r realiti fod penderfyniadau allweddol am ofal iechyd, yr economi ac addysg yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd ac nid yn San Steffan.
“Nid yw Senedd gryfach yn tynnu sylw oddi wrth gael Cymru ar y ffordd i adferiad, dyma’r sylfeini y gellir adeiladu adferiad arnyn nhw.
“Os ydym am ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod, mae angen Senedd arnom sy’n addas ar gyfer y frwydr a gwleidyddion o bob plaid i sefyll i fyny a’i gyflawni ac nid syrthio’n ôl ar sylwadau poblyddol er budd etholiadol tymor byr.”