Mae ail ddynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mangor nos Fawrth ddiwethaf (Mawrth 30).
Roedd y ddynes 25 oed yn gyrru Seat Leon glas pan wnaeth y car wrthdaro â Honda Civic coch oedd yn teithio o’r cyfeiriad arall.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd A4087 rhwng Tesco a chylchfan y Faenol ym Mangor ychydig cyn 9:15yh, a chafodd y ddynes oedd yn gyrru’r Seat Leon ei chludo i Ysbyty Gwynedd, cyn ei symud i Stoke.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod y ddynes wedi marw ddydd Iau (Ebrill 1), ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi ei henw eto.
Cafodd gyrrwr yr Honda Civic ei gludo i’r ysbyty yn Stoke hefyd, lle mae’n dal i fod mewn cyflwr sefydlog.
Bu farw’r ddynes 32 oed oedd yn teithio yn sedd flaen yr Honda – Gemma Adran – yn y fan a’r lle.
Roedd Gemma Adran yn dod o Ynysoedd y Ffilipinas, ond roedd hi’n byw ym Mangor ac yn gweithio fel nyrs mewn cartref gofal ym Mhorthmadog.
“Roedd Gemma yn ferch yr oeddem ni’n ei charu, a byddwn yn ei cholli’n fawr iawn,” meddai ei theulu.
“Roedd hi’n garedig ac annwyl, a byddai ei gwên yn codi eich hwyliau.”
Mewn teyrngedau eraill, cafodd Gemma Adran ei disgrifio fel “cydweithwraig anhygoel a nyrs ardderchog.”
Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth yn ymwneud â’r digwyddiad.
“Rydym ni’n cydymdeimlo gyda phawb oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad – ac yn arbennig gyda’r ddwy ddynes sydd wedi marw,” meddai’r Rhingyll Raymond Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd.
“Rydym yn parhau i apelio am dystion, ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd unrhyw un o’r cerbydau yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A4078 a allai fod â ffilm dashcam.”