Mae Downing Street wedi amddiffyn ymweliad Boris Johnson ag eglwys sydd dan y lach yn sgil ei hagwedd at bobol hoyw – ar ôl i Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ymddiheuro ar ôl cael ei feirniadu am fynd yno.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y ddau wedi ymweld â’r eglwys ddadleuol yn Brent yng ngogledd Llundain.

Dywedodd Starmer mai “camgymeriad” oedd mynd yno ar ôl i’r eglwys gael ei throi’n ganolfan frechu, ond mae’n mynnu nad oedd e’n ymwybodol o farn yr eglwys am hawliau LHDTC+.

Daw ei ymddiheuriad ar ôl i fideo ymddangos ar y we yn tynnu sylw at yr ymweliad, ac mae’n dweud ei fod yn “anghytuno’n llwyr” â barn yr eglwys am hawliau LHDTC+ a bod y fideo bellach wedi cael ei ddileu.

Aeth prif weinidog Prydain yno fis yn ôl ac mae ei staff wedi amddiffyn yr ymweliad, gan dynnu’r sylw at ymweliadau’r Llywodraeth â chanolfannau brechu i annog mwy o bobol i gael brechlyn Covid-19.

Agu Irukwu

Mae offeiriad yr eglwys, Agu Irukwu, wedi bod yn llafar ei wrthwynebiad i briodasau o’r un rhyw ac i ddeddfwriaeth yn sicrhau cydraddoldeb i bobol LHDTC+.

Mae ymgyrchwyr o’r blaid Lafur wedi beirniadu ymweliad Syr Keir Starmer a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cymeradwyo’r ymweliad wrth groesawu’r Gwasanaeth Iechyd yno i frechu pobol, gan ddweud bod y sylwadau’n “annerbyniol”.

Cafodd Theresa May ei beirniadu am fynd yno yn 2017, ac mae Boris Johnson a’r Tywysog Charles hefyd wedi bod yno’n ddiweddar heb dynnu sylw at eu hymweliadau.

Ystyried cwyno am Boris Johnson

Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur yn ystyried cwyno am Boris Johnson ar ôl iddo fe fanteisio ar gynhadledd i’r wasg am Covid-19 i ladd ar Sadiq Khan, ar drothwy etholiad Maer Llundain.

Mae e wedi ei gyhuddo o “wastraffu” arian ar bolisi prisiau “anghyfrifol” ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas.

Cafodd y sylwadau eu gwneud neithiwr (nos Lun, Ebrill 5), yn ystod y cyfnod pan fo lecsiyna o’r fath gan Lywodraeth Prydain wedi’i wahardd.

Yn ôl y rheolau, does gan swyddogion y llywodraeth mo’r hawl i wneud sylwadau sy’n effeithio ar gefnogaeth y cyhoedd i unrhyw blaid wleidyddol.

Mae Llafur yn cyhuddo Boris Johnson o dorri’r rheolau ac fe allen nhw gwyno wrth y BBC a phennaeth y Gwasanaeth Sifil.

Mae Sadiq Khan yn ceisio ennill ail dymor yn Faer Llundain.