Mae Keith Rowland, prif weinidog Trinidad a Tobago, wedi profi’n bositif am Covid-19, yn ôl ei swyddfa.

Cafodd e brawf ar ôl cael symptomau ffliw ddechrau’r wythnos, yn ôl y llywodraeth.

Mae e’n hunanynysu ac yn cael ei oruchwylio’n feddygol.

Treuliodd e’r Pasg ar ynys Tobago ac roedd disgwyl iddo fe gael ei frechu heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6) wrth i’r ynysoedd lansio’u rhaglen frechu ar ôl derbyn 330,000 o frechlynnau AstraZeneca.

Fe fu mwy nag 8,000 o achosion a 145 o farwolaethau ar yr ynysoedd, sydd â phoblogaeth o 1.2m o bobol rhyngddyn nhw.