Mae lle i gredu bod cwch aeth ar goll oddi ar arfordir Bae Colwyn cyn i dimau achub ddod o hyd i gyrff tri o ddynion wedi cael ei ganfod yn y môr.

Aeth y ‘Nicola Faith’ ar goll ar Ionawr 27, a chafwyd hyd i gyrff Carl McGrath (34), Ross Ballantine (39) ac Alan Minard (20) yn ddiweddarach.

Cafwyd hyd i gwch ddwy filltir oddi ar yr arfordir, yn ôl y Gangen Ymchwilio Damweinau Morwrol (MAIB).

Cafwyd hyd i gorff Carl McGrath yn Blackpool, tra bod cyrff Ross Ballantine ac Alan Minard wedi’u canfod yng Nghilgwri.

Cafwyd hyd i gyfarpar achub bywyd y cwch oddi ar arfordir yr Alban.

Mae cwest i farwolaethau’r tri wedi’i ohirio, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.