Mae Siân Gwenllian, sy’n sefyll i gael ei hailethol yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi nodi cynlluniau ar gyfer lansio Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cymru pe bai ei phlaid yn llwyddo i ffurfio llywodraeth – cynllun sy’n cael ei groesawu gan y ddawnswraig Elan Elidyr, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Byddai’r Gronfa Llawrydd yn cefnogi 1,000 o weithwyr llawrydd i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion, wedi’i ategu gan incwm sylfaenol o £1,000 y mis am ddwy flynedd.
Ychwanega Siân Gwenllian y byddai hyn yn rhan o Strategaeth Celfyddydau a Diwylliant ehangach sydd wedi’i dylunio i’w gwneud yn ofynnol i bob adran o’r llywodraeth ystyried materion diwylliannol wrth ffurfio polisi cyhoeddus.
“Mae artistiaid a gweithwyr llawrydd unigol yn rhan hanfodol o’r sector diwylliannol – awduron, artistiaid, cerddorion, dylunwyr setiau, i enwi ond ychydig,” meddai.
“Rydyn ni i gyd wedi bod yn ymwybodol o’r diffyg diwylliannol yn ein bywydau dros y flwyddyn ddiwethaf – boed yn colli’r cae pêl-droed, y neuadd gyngerdd, y theatr neu’r ŵyl.
“Wrth i’r sefyllfa wella ac wrth i ofodau creadigol agor unwaith eto, bydd hyn yn anochel yn cynorthwyo gweithwyr llawrydd i fynd yn ôl ar eu traed, ond byddai Llywodraeth Plaid Cymru eisiau gwobrwyo eu cyfraniad gydag incwm sylfaenol gwarantedig.
“Mae diwylliant bob amser wedi bod wrth galon cenedl Cymru a gyda Phlaid Cymru wrth y llyw, byddai wrth galon y llywodraeth hefyd.”
“Hynod bwysig”
Mae Elan Elidyr, sy’n ddawnswraig ac yn gweithio’n llawrydd ym myd y celfyddydau, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “hynod bwysig” fod y llywodraeth nesaf yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd i weithwyr llawrydd.
“Y llynedd, roeddwn i am oes yn pendroni pryd y byddwn i’n cael bod mewn theatr eto a doeddwn i ddim wedi bod yn gweithio’n llawrydd am ddigon hir i gael cefnogaeth ariannol felly roedd o’n amser anodd,” meddai.
“Yn lwcus iawn, ges i arian gan Gyngor Caerdydd yn y diwedd oherwydd roedden nhw’n darparu cymorth i bobol yn fy sefyllfa i, ac roedd hynny yn grêt.
“Felly dw i yn meddwl ei fod o’n rili pwysig (rhoi cefnogaeth i weithwyr llawrydd), yn enwedig nawr pan mae popeth arall yn dechrau ailagor – mae sôn am fwytai, sôn am siopau, popeth fel’na – ond does dim byd am theatrau.”
“Sefydlogrwydd”
Ac mae Elan Elidyr yn gefnogol i Gronfa Gweithwyr Llawrydd Plaid Cymru.
“Byddai rhywbeth fel’na yn grêt,” meddai wrth golwg360.
“Roeddwn i a phobol dw i’n adnabod yn teimlo’n ofn ar ôl gorffen coleg oherwydd byddai pobol yn gofyn wrthat ti wneud sesiwn ddrama, neu sesiwn ddawnsio… a ti’n gorfod dysgu ar y job.
“Felly dw i’n credu pe byddai yna rywbeth lle ti’n cael dy dalu neu’n gwybod dy fod ti gyda’r ysgol yma am fis neu beth bynnag – byddai hynny yn beth neis.
“Byddai’n rhoi sefydlogrwydd i ti.”