Bydd gŵyl celfyddydau cyfoes Art Night 2021 yn ymweld â mwy na deg lleoliad ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, a’r Fenni.

Fel arfer, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Llundain ond eleni, bydd yn ymestyn i leoliadau eraill yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, a bydd comisiynau i’w gweld ar-lein.

Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr, yn cael ei chynnal dros gyfnod o fis rhwng Mehefin 18 a Gorffennaf 18.

Eleni, bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o beintiadau ar fyrddau poster gan Guerilla Girls, dan y teitl ‘The Male Gaze’, a fydd yn archwilio ymddygiad drwg yn y gorffennol a’r presennol.

Mae artistiaid eraill yr ŵyl yn cynnwys Mark Leckey, sydd wedi ennill Gwobr Turner, Oona Doherty, Adham Faramawy, Sonya Dyer, Imran Perretta a Paul Purgas, Philomene Pirecki, a OOMK.

Yn ogystal, bydd Alberta Whittle yn creu ffilm a pherfformiad yn edrych ar y berthynas rhwng yr hinsawdd amgylcheddol a gwleidyddol, a bydd ei ffilmiau yn cael eu darlledu yng ngorsaf drenau Y Fenni.

Adeg o ‘lanast posib i’r celfyddydau’

“Rydym ni’n darganfod ein hunain yn hercian, flwyddyn wedi Covid-19; ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd, ac yn wynebu llanast posib i’r celfyddydau,” esbonia Helen Nisbet, Cyfarwyddwr Artistig Art Night 2021.

“Cafodd y rhaglen ei datblygu yn ystod ‘trafodaethau’ Brexit, gyda Phrydain dan arweiniad y Ceidwadwyr, a gwleidyddiaeth y dde eithafol ar gynnydd dros y byd.

“Roedd rhaglen Art Night 2021 yn ymwneud â’n buddugoliaethau personol a’n tactegau ni i oroesi, ac mae hynny dal yn wir – gweithredoedd bach i herio, ac adegau o bendantrwydd – yn bersonol ac ar y cyd.

“Mae’n ymwneud â’r ffordd rydym ni’n parhau, a’r hyn sy’n ein cario ni, pan fo cymaint o’r strwythurau economaidd, sefydliadol, gwleidyddol, a diwylliannol yn ein herbyn, neu yn ceisio ein torri.

“Mae ein dyled yn fawr i’r artistiaid am eu hamser a’u gofal yn creu gwaith dan amgylchiadau mor ansicr a heriol.

“Yn 2021, rydym ni wrth ein boddau yn cael cyflwyno gwaith newydd gan artistiaid rhagorol i gynulleidfaoedd newydd ar draws y wlad, mewn dinasoedd, trefi, a hyd yn oed mewn pentrefi,” meddai Philippine Nguyen a Ksenia Zmetsova, cyd-sylfaenwyr Art Night.