Mae Priodas Pum Mil yn galw am gyplau i gystadlu am briodas hafaidd, fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.

Y gwylwyr fydd yn dewis y pâr buddugol, ac mae posib cyflwyno cais, neu enwebu pâr haeddiannol, nawr.

Yng nghanol mis Mai, bydd y tri chwpwl sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cyflwyno fideo i’r rhaglen Heno, yn egluro pam mai nhw ddylai ennill y briodas.

Bydd y briodas yn cael ei darlledu’n fyw ar Orffennaf 16, o un o draethau “harddaf Cymru”.

Yn ogystal, bydd pumed gyfres o Priodas Pum Mil yn cael ei darlledu yn yr Hydref.

“Gan fod tipyn i aros nes y gyfres nesaf, mae Emma (Walford) a finnau wedi cael her arbennig ar gyfer yr haf. Unwaith eto, bydd cwpwl lwcus yn cael y cyfle i briodi a ninnau yn gweithio gyda’r teulu a ffrindiau i drefnu popeth drostynt. Ond, mae ’na gwpwl o dwists!” meddai Trystan Ellis-Morris, un o gyflwynwyr y rhaglen.

“Y gwylwyr fydd yn dewis y pâr buddugol, felly mae gan bawb ran bwysig i’w chwarae yn yr uniad y tro yma. Ac mi fydd y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw o un o leoliadau harddaf Cymru – ar draeth.”

“Mae’r dyddiad wedi’i osod (16 Gorffennaf), mae’r arian yn y kitty, a da ni wrthi’n brysur yn barod i sicrhau fod y dydd yn un bythgofiadwy ac yn llawn o wynebau cyfarwydd. Be well? Be all fynd o’i le?”.

“Yr unig beth sydd ar goll yw’r ddau ddyweddi.”

“Dychmygwch leoliad hudol wedi ei addurno’n fendigedig a dychmygwch adloniant o’r radd uchaf, gan un o gantorion enwocaf ein gwlad. Mae hyd yn oed sôn bod cogydd godidog yn paratoi i danio’r barbeciw yn barod” ychwanega Emma Walford.

Ewch i wefan S4C er mwyn gwneud cais cyn Ebrill 23.