Mae Morfydd Clark yn y ras am wobr fawreddog BAFTA sydd wedi ei hennill gan actorion adnabyddus megis Kristen Stewart, James McAvoy a Tom Hardy…

Mae’r actores Morfydd Clark yn Auckland ers dechrau’r cyfnod clo, ryw 11,000 o filltiroedd i ffwrdd o Benarth lle cafodd ei magu – ond nid yn ddaearyddol yn unig y mae hi wedi mynd yn bell dros y blynyddoedd diwethaf.