Mae un o artistiaid graffiti prysuraf Cymru yn paentio cyrff yn ogystal â muriau…

Efallai i chi sylwi ar luniau o’r tri murlun hardd sydd wedi ymddangos yn Nhreorci, Aberteifi a’r Rhyl ag arnyn nhw eiriau o gerdd gan ddisgyblion lleol a Bardd Plant Cymru. Ond pwy yn union yw’r artist a’u paentiodd mor gelfydd?