Mae’r pwysau cynyddol ar ofalwyr hen ac ifanc sy’n edrych ar ôl aelod o’r teulu wedi dwysáu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dyna ddywed Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yr elusen sy’n gweithio i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau ar gyfer y 350,000 a mwy o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Ar y gorau mae gofalu am deulu neu ffrind yn taro gofalwyr di-dâl yn galed yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol, ac yn ariannol, eglura Simon Hatch.