Er bod y stadiwm yn wag, roedd Chris Gunter yn llawn emosiwn wrth iddo chwarae tros ei wlad am y canfed tro yn y gêm gyfeillgar nos Sadwrn diwethaf yng Nghaerdydd.

Y gŵr o Gasnewydd yw’r dyn cyntaf i ennill cant o gapiau dros Gymru ar y cae pêl-droed, ac i nodi’r achlysur ef oedd y capten wrth i’w dîm guro Mecsico 1-0.

Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru