Wrth ei gwaith mae Emily Tucker yn portreadu un o gymeriadau mwyaf tanllyd Cwmderi, ond ers rhai blynyddoedd mae wedi bod yn helpu pobol i gadw’n heini hefyd.

Ers dros ddegawd mae wedi chware rhan ‘Sioned Charles’, dynes ifanc sydd ond yn poeni amdani hi ei hun, ar opera sebon Pobol y Cwm.

Ac ochr yn ochr â’r actio, mae’n hyfforddwr ffitrwydd personol, yn cynnal dosbarthiadau ar-lein i filoedd o ddilynwyr.