Ers troad y flwyddyn, wath inni fod yn onest, ry’n ni wedi bod yn lled-anwybyddu Brexit.

Ro’dd hyd yn oed y rhai ohonon ni o’dd yn echrydu ar ein hymadawiad yn reit falch o allu meddwl a siarad am r’wbeth arall. Er bod y ‘rh’wbeth arall’ – y pandemig – yn ofnadwy, roedd ’na deimlad bod brwydr Brexit wedi’i cholli, bod y drafodaeth wedi ein llethu ni i gyd.