Mae hi’n “hen bryd” i ni ddweud ein stori drwy gyfrwng celf, yn ôl yr arbenigwr adnabyddus…
Mae curadur arddangosfa newydd o weithiau celf Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi dweud ei fod yn “fodel” ar gyfer “oriel genedlaethol barhaol” i Gymru.
Fe wnaeth Peter Lord, curadur yr arddangosfa newydd ‘Dim Celf Gymreig’ – Archwilio’r Myth yn Oriel Gregynog, y datganiad mewn anerchiad i staff ac aelodau’r wasg ar fore’r prif agoriad.
Mae’r arddangosfa, a fydd yn ei lle hyd at fis Medi 2025, yn ymateb i’r datganiad heriol a wnaeth y darlledwr Dr Llewelyn Wyn Griffith yn 1950: “So much for the past. No patron, no critic, therefore no painter, no sculptor, no Welsh Art. It is as simple as that.”
Yn yr arddangosfa mae dros 100 o weithiau celf o gasgliad helaeth Peter Lord ei hun, ynghyd â thros 100 o gasgliad y Llyfrgell – 264 o weithiau i gyd. Mae nifer o gasgliad Peter Lord – sydd wedi bod yn casglu celf Gymreig ers degawdau – i’w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed. Ei gred yw y dylai lluniau gael eu gwerthfawrogi nid yn unig yn weledol ond am yr hyn maen nhw’n ei ddweud am hanes y genedl.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r tirlun Conway Castle from the Shore gan Clara Knight, aelod o’r ‘artists colony’ cyntaf ym Mhrydain a gafodd ei sefydlu ym Metws-y-coed yng nghanol y 19eg ganrif; a Vase of Flowers gan Gwen John.
Mae yma lu o weithiau gan arlunwyr yr 20fed ganrif fel Archie Rhys Griffiths, Evan Walters, Josef Herman, Cedric Morris, Ceri Richards a John Cyrlas Williams, mab i löwr o Thomastown. Un o’r gweithiau mwyaf cyfoes yw Tŷ Haf (1984) gan Peter Davies, aelod o fudiad Beca. Cafodd y paentiad olew o dŷ haf yn llosgi ei dynnu i lawr gan un oriel pan y’i dangoswyd gyntaf am fod yn rhy ddadleuol. O’r herwydd, dylid ystyried y gwaith celf yn “eicon”, yn ôl Peter Lord. Yn rhannu’r un wal mae llun enwog Curnow Vosper, Salem ac wrth ei ochr mae print llungopi anhysbys o’r darlun â’r geiriau ‘Deffrwch y Bastads’ (1988).
“Mae’r Llyfrgell wedi prynu llun ‘Salem’ – grêt, ond nid dyna’r naratif i gyd,” meddai Peter Lord wrth Golwg. “Ry’n ni’n defnyddio ‘Salem’ yn y casgliad ffantastig sydd yn y Llyfrgell i ddweud naratif mwy cyfoes. Dyna bwynt yr arddangosfa yma.”
Dilyn trywydd hanes Cymru
Mae’r arddangosfa wedi ei rhannu yn themâu a lliwiau ac mae eisiau dechrau wrth ddilyn y trywydd i’r chwith o’r fynedfa. Yno mae darluniau crand yn gysylltiedig â noddwyr o fyd bonedd o’r 17eg ganrif ymlaen, yn bortreadau ac yn ddarluniau o geffylau a hela.
Yna mae byd y dosbarth canol gyda gwaith arlunwyr artisan – sef y rheiny na chafodd hyfforddiant academaidd – fel Hugh Hughes a William Roos. Fe fyddai’r rheiny yn gwneud portreadau hyd nes i ffotograffiaeth ddisodli’r galw amdanyn nhw, a pheri iddyn nhw droi at greu tirluniau, lluniau llongau ac engrafiadau.
Yna mae gwaith noddwyr y werin, o arwyddion tafarn i doriadau-ar-bren i addurno baledi poblogaidd. Un o’r darnau hynny yw llun gan yr artist amatur 16 oed John Roberts o 1832 ar gyfer arwydd tafarn y Marquis of Anglesey yng Nghaernarfon – darn sy’n eiddo i Peter Lord.
Dan thema ‘Hunaniaethau Cymreig’ mae gweithiau sy’n ymdrin â ‘Hanes, Mytholeg a Chwedlau’, fel brasluniau Christopher Williams ar gyfer ei ddarlun enwog, Deffroad Cymru, a thirluniau.
Wedyn mae sawl llun yn cyfleu’r ddelwedd ddof o’r ferch bert, ifanc yn y wisg genedlaethol, a gafodd ei phoblogeiddio mewn cân werin gan John Parry (Bardd Alaw). Yn eu plith mae llun John Cambrian Rowland o Ledrod, ‘Jenny Jones’. Gyferbyn mae adran o’r enw ‘Yr Olygfa o Lundain’, yn dangos delweddau sarhaus tuag at y Cymry o du’r wasg Lundeinig. Mae sawl argraffiad yn dangos y Cymro carpiog-dlawd gyda’r enw ystrydebol ‘Shôn Morgan’ yn mudo i’r ddinas ar gefn gafr.
Un o ddarnau mwyaf arwyddocaol yn yr arddangosfa o ran yr agwedd ddirmygus yma, yn ôl Peter Lord, yw’r gwaith anhysbys, It’s a long long way to Tipperary, yn dyddio o tua 1914-18. Mae Cymru ar ffurf merch fach ddiniwed yn cysgodi y tu ôl i gadair ei mam, Lloegr. Mae gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn oedolion, yn sefyll ar eu traed eu hunain.
Wedyn mae yna weithiau yn ymhél â phrofiadau’r werin yng nghyswllt crefydd Anghydffurfiol, fel llun T H Thomas John Elias yn Pregethu yn y Gymanfa 1892, darlun William Morgan Williams, Tri Chedyrn Cymru (1869) a sawl portread a chrochenwaith o’r gweinidog un llygad, Christmas Evans.
Darn mwya’ diweddar yr arddangosfa yw darlun Christine Mills, Cymerwch Sêt (2022), sy’n gosod y traddodiad Ewropeaidd o gelfyddyd uchel yng nghanol y bywyd Cymraeg, drwy adleoli darlun Poussin, ‘A Dance to the Music of Time’ yn ei ffermdy gwledig.
“Dw i wedi diweddu gyda hwnna achos ro’n i eisio sôn am y dyfodol hefyd,” meddai Peter Lord. “Dyma ni Christine Mills, yn lleoli ei Chymreictod mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ddefnyddio llun enwog Poussin ond yn ei Gymreigeiddio fe… Dyna yw’r ffordd ymlaen.”
Yn barod i’w alw’n “bropaganda”
Y tu allan i ddrws Oriel Gregynog, mae nifer o ddyfyniadau dilornus am Gymru dan y teitl ‘Dweud Mawr’ – fel sylw The Times yn 1866, ‘All the progress and civilisation in Wales has come from England’ a ‘Wales has no art but literature and music’ gan Her Majesty’s Stationary Office, Llundain 1927.
Mae Peter Lord wedi sgrifennu nifer o gyfrolau swmpus ar hanes celf yng Nghymru – i gyd yn gwrthbrofi’r honiadau yma.
“Y bobol sydd wedi fy ysbrydoli fi yn y gorffennol yw pobol fel [y beirniad celf] John Berger,” meddai, “sy’n edrych ar gelfyddyd weledol nid yn rhan o hanes celfyddyd uchel Ewropeaidd ac Americanaidd sydd yna i gyfleu neges yn unig am y gwledydd trefedigaethol oedd yn rheoli’r byd yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Dw i eisie edrych o dan hynny i weld sut mae ein traddodiad gweledol ni yn dweud stori amdanon ni ein hunain, sydd yn groes i’r stori yna.
“Dywedodd John Berger am un arddangosfa wnaeth ei chreu, ei fod e ddim yn mynd i ymddiheuro am y ffaith ei fod yn bropaganda. Dw i’n ddigon bodlon derbyn hynny hefyd. Mae hi’n hen bryd. Mae’n rhaid i ni ddweud y stori.”
Mae Prif Weithredwr y Llyfrgell yn dweud fod yr arddangosfa yn “gyfle gwych” i wneud hynny.
“Mae’r cydweithio sydd wedi bod gyda Peter Lord yn dod â’r ddau gasgliad mawr o draddodiadau gwahanol o Gymru yn ddogfen bwysig, yn creu stori amlhaenog iawn,” meddai Rhodri Llwyd Morgan wrth Golwg, yn ei stydi ar ail lawr y Llyfrgell.
“Mae hi’n stori gymhleth ac mae hi wedi ei dweud mewn ffordd ddychmygus iawn gan Peter a’r tîm yn fan hyn. Mae e wedi dweud stori sydd yn anghyfarwydd i bobol. Dw i’n meddwl byddai Peter yn croesawu dadl ynglŷn â rhai o’r themâu sydd y tu ôl i’w weledigaeth e a’i wybodaeth ddofn e o’r traddodiad yma. Mae yn fendigedig cael bod yn rhan o rannu hynna gyda phobol fydd yn dod yma.”
“Chwilio am gartref” i oriel barhaol
Yn ei anerchiad ar fore’r agoriad fe ddywedodd Peter Lord: “Beth sydd gyda ni fan hyn yw model o oriel genedlaethol barhaol…. hynny yw, yr oriel sy’ ddim gyda ni yng Nghymru ar y funud. Mae hwnna’n rhywbeth sy’n ein gwneud yn unigryw… ymhlith gwledydd lleiafrifol yn Ewrop.”
Ers mis Mai 2023 mae Llywodraeth Cymru yn cyllido cynllun o’r enw Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Oriel ar wasgar yw hon, sydd yn caniatáu i Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol rannu gweithiau o’r casgliad celf cenedlaethol gyda naw oriel ac amgueddfa drwy Gymru.
A yw Peter Lord yn credu y bydd hyn yn newid i fod yn oriel barhaol mewn un lleoliad rhyw ddiwrnod?
“Sa i’n gwybod – dw i’n 76 oed erbyn hyn,” meddai. “Job rhywun arall fyddai honno! Rydan ni’n trio gosod y sylfaen. Dyma pam wnes i greu’r casgliad, yn y gobaith y byddai yn sail i oriel genedlaethol o’r math yma sydd yn adrodd naratif y genedl. Dyna be rydw i’n gweithio (tuag ato) ond rydan ni’n dal i chwilio am gartref.”
Mae Golwg ar ddeall bod cyn-Brif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd, wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i sefydlu oriel barhaol mewn is-adeilad ar dir y Llyfrgell. Y bwriad oedd rhoi cartref i ffotograffau’r genedl yn ogystal â chelf o gasgliad y Llyfrgell – mae dros filiwn o ffotograffau yn y casgliad. Nid oes unrhyw ddatblygiad pellach o ran hynny, yn ôl y Prif Weithredwr cyfredol.
“Mae yn sicr sgwrs i’w chael,” meddai Rhodri Llwyd Morgan. “Mae tipyn o drafod wedi bod, ac yn iawn hefyd, ynglŷn â sefyllfa’r celfyddydau, sut oedd gweledigaeth ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes (Genedlaethol i Gymru), hefyd wedi ystyried am gyfnod o weld safle angor ar gyfer hynny.
“Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu nawr mai [y ffordd ymlaen yw] datblygu’r dull gwasgaredig yma o weithio gyda ni ac Amgueddfa Cymru i hwyluso rhagor o fenthyg, hwyluso rhagor o ddigido, cyrraedd rhagor o bobol drwy fynd allan i orielau partner, a hynna’n weledigaeth sydd â thipyn i’w ganmol o ran cyrraedd.”
- ‘Dim Celf Gymreig’ – Arddangosfa yn Archwilio’r Myth gyda Peter Lord, Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, hyd at 6 Medi 2025