Yn Llandudno mae arddangosfa fawr o waith artist oedd yn fynyddwr o fri…
Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, bu Martin Collins yn ymroi yn llwyr i’w waith celf, gan gerdded y glannau a’r bryniau ac yn ymweld droeon â’i hoff lefydd i arlunio.
Un o Gaerloyw oedd e’n wreiddiol, ond symudodd i Gonwy yn 1984. Roedd yn fynyddwr brwd ac fe gyhoeddodd lawer iawn o lyfrau taith cyn troi at baentio yn llawn amser.