Mae disgwyl i Adam Price lansio maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 6), gan addo refferendwm annibyniaeth a’r “rhaglen fwyaf radical er 1945”.

Bydd arweinydd y blaid yn dweud y bydd y “polisïau ymarferol y gellir eu cyflawni ac sydd wedi eu costio’n llawn” yn sicrhau dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus i Gymru.

Bydd etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ar Fai 6.

Mae disgwyl i Adam Price gyhoeddi’r polisïau canlynol:

  • ‘Llwybr i lwyddiant’, gan gynnwys Bargen Werdd Cymru sy’n creu hyd at 60,000 o swyddi newydd, gwarant swyddi ieuenctid i bobl ifanc 16-24 oed, benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid a chreu Ffyniant Cymru (asiantaeth gyflawni economaidd).
  • Darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol, a darparu gofal plant am ddim o 24 mis.
  • Bargen deg i deuluoedd trwy dorri bil treth y cyngor ar gyfartaledd, cyflwyno taliad wythnosol i blant yn codi i £35 yr wythnos, a darparu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol di-dor sy’n darparu gofal cymdeithasol – am ddim yn ôl yr angen, yn hyfforddi ac yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig ag yn gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.
  • Wynebu’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth trwy osod Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio, sefydlu Ynni Cymru gyda’r nod o gynhyrchu 100% o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a chyflwyno Deddf Natur yn statudol yn ogystal â thargedau i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

Refferendwm annibyniaeth

Bydd Adam Price hefyd yn adnewyddu addewid Plaid Cymru o gynnal refferendwm annibyniaeth o fewn tymor cyntaf ei lywodraeth pe bai’r blaid yn ennill mwyafrif.

Bydd yn ychwanegu: “Yn y Maniffesto hwn rydym yn addo i adeiladu cenedl sy’n rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd a dyfodol mwy disglair i bawb.

“Am y tro cyntaf mewn etholiad Senedd bydd pobl Cymru yn gallu pleidleisio i gymryd eu dyfodol eu hunain i’w dwylo eu hunain.

“Credwn mai annibyniaeth yw’r unig ffordd bendant a chynaliadwy o gyflawni cynnydd cymdeithasol ac economaidd.

“Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu dyfodol ein cenedl mewn refferendwm annibyniaeth.”

Cymru a San Steffan yn “byw mewn bydysawd gwahanol”

“Nid ni yw’r wlad y dylem fod. Nid ni yw’r wlad y gallwn fod ac nid ni yw’r wlad rydyn ni am fod.

“Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Nid yw’r problemau yr ydym wedi’u cael ers cenedlaethau yn anochel.

“Gallwn ddatrys y problemau hyn, gyda’n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd sydd â’r uchelgais i adeiladu Cymru newydd sy’n well na’r hen.

“Ni fydd San Steffan byth yn gweithio i Gymru. Rydym yn byw mewn bydysawd gwahanol.

“Mae’r amser i roi’r freuddwyd Gymreig fawr honno o gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd i bawb ar waith.”

Plaid Cymru yn “anwybyddu anghenion y mwyafrif o bobol yng Nghymru”

Wrth ymateb i lansiad maniffesto Plaid Cymru, dywedodd Janet Finch-Sauners, sy’n sefyll i gael ei hailethol yn Aelod y Ceidwadwyr Cymreig dros etholaeth Aberconwy: “Dyma lansiad arall o swigen Bae Caerdydd gan Blaid Cymru sy’n anwybyddu anghenion y mwyafrif o bobol yng Nghymru.

“Mae pobol ar draws Cymru eisiau gweld newid, ond yr oll mae Plaid yn ei gynnig ydi’r posibilrwydd o glymblaid arall wedi’i harwain gan y Blaid Lafur.

“Ond byddai’r un hon yn achosi anhrefn gyfansoddiadol gyda bygythiadau o annibyniaeth a hunanlywodraeth.

“Mae’n drist gweld bod y Blaid benderfynol o greu rhaniadau a gwahanu ein gwlad gyda refferendwm annibyniaeth ar draul bywoliaeth pobol ac adferiad economaidd Cymru.”

Plaid Cymru yn gobeithio creu cwmni ynni cenedlaethol – Ynni Cymru

“Mae gan Gymru lawer iawn o gyfoeth naturiol ond mae angen i ni elwa ar y buddion hynny i gymunedau lleol, i Gymru ac i’n hamgylchedd”