Fe wnaeth Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys, lansio’i ymgyrch i gael ei ailethol neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 6).
Cafodd ei ethol ym mis Mai 2016, ac mae wedi gwasanaethu am bum mlynedd wedi i’r etholiad gael ei ohirio y llynedd.
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar Fai 6 eleni.
Lansiodd ei ymgyrch fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn digwyddiad ar-lein, dan arweiniad Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion.
Ers cael ei ethol, mae Dafydd Llywelyn wedi cyflwyno system camerâu cylch-cyfyng modern ar draws 25 tref yn yr ardal, gan osod dros 150 o gamerâu.
Mae’r system yn cael ei monitro ym Mhencadlys yr Heddlu, ac fe fu’n declyn effeithiol wrth fynd i’r afael â throseddau, meddai Plaid Cymru.
Ynghyd â hynny, mae Dafydd Llywelyn wedi cynyddu nifer y swyddogion heddlu ar draws y llu, ac mae’r Timau Plismona Bro lleol wedi cael eu hadnewyddu er mwyn darparu adnoddau ychwanegol, gan ganolbwyntio ar bresenoldeb ac atebolrwydd yr heddlu’n lleol.
Parhau i weithio mewn “modd cadarnhaol”
Yn y lansiad ar-lein, cyflwynodd Dafydd Llywelyn 30 o’r pethau allweddol y mae wedi’u cyflawni ers cael ei ethol yn 2016, ac fe wnaeth e rannu ei weledigaeth ar gyfer y tymor nesaf.
“Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni dros y 5 mlynedd diwethaf ac rwy’n falch fy mod wedi gallu dylanwadu ar yr Heddlu ac asiantaethau Cyfiawnder Troseddol mewn ffordd gadarnhaol,” meddai Dafydd Llywelyn cyn y lansiad.
“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i’m llwyddiant ac rwy’n cydnabod yr angen i gydweithio gyda nifer o randdeiliaid er lles ein cymunedau.
“Os caf fy ailethol byddwn yn parhau i weithio yn y modd cadarnhaol hwn, a byddwn yn adeiladu eto ar y llwyddiannau rwyf wedi’u cyflawni mor belled.”