Mae pobol yng Nghymru yn dechrau derbyn y brechlyn Moderna heddiw (dydd Mercher, Ebrill 7).
Trigolion Sir Gaerfyrddin fydd y rhai cyntaf yng Nghymru ac yng ngwledydd Prydain i gael dos o’r trydydd brechlyn Covid-19.
Cafodd brechlyn Moderna ei gymeradwyo gan awdurdod MHRA ym mis Ionawr yn dilyn treialon, ac fe ddaeth y cyflenwadau cyntaf i Gymru ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 6).
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn 5,000 o frechlynnau yn y lle cyntaf, i’w dosbarthu mewn canolfannau brechu, a bydd y rhai cyntaf yn cael eu rhoi yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
‘Carreg filltir allweddol arall’
“Dyma garreg filltir allweddol arall yn ein brwydr yn erbyn y pandemig Covid-19,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Mae cael trydydd brechlyn i’w ddefnyddio yng Nghymru yn ychwanegu’n sylweddol at ein hamddiffyniad yn erbyn y coronafeirws a bydd yn helpu i ddiogelu ein pobol fwyaf agored i niwed.
“Mae pob brechiad a roddir i rywun yng Nghymru yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ac rydym yn annog pawb i fynd i gael eu brechu pan gân nhw eu gwahodd.
“Os na all pobol fynychu eu hapwyntiad rydym yn gofyn iddyn nhw roi gwybod i’r bwrdd iechyd drwy’r manylion cyswllt yn eu gwahoddiad, gan y gellir cynnig y slot brechu i rywun arall yn hytrach na’i wastraffu.
“Unwaith y byddwch wedi cael eich brechu, dylech barhau i ddilyn y canllawiau, cadw dau fetr ar wahân, golchi eich dwylo a gwisgo gorchudd wyneb i ddiogelu’r rhai o’ch cwmpas.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’r brechiadau ledled Cymru a’n helpu i gyrraedd ein hail garreg filltir o gynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth yng ngham 1.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r 1.5m o bobol yng Nghymru sydd eisoes wedi dod i gael eu brechu ac wedi gwneud eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol hon.”
‘Hynod ffodus’
“Rydym yn falch iawn o allu cael y brechlyn Moderna i’w ddefnyddio ar draws gorllewin Cymru,” meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Byddwn yn defnyddio’r brechlyn newydd hwn, ochr yn ochr â brechlyn Rhydychen Astra-Zeneca, i barhau i ddarparu’r rhaglen frechu i’n cymunedau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Rydym yn hynod ffodus o gael trydydd brechlyn yng Nghymru – un sy’n para’n hir ac sy’n hawdd ei gludo – i’n helpu i ddarparu’r rhaglen frechu i glinigau bach ar draws ein cymunedau gwledig.”
Dryswch ynghylch targedau
Daw’r newyddion am frechlyn Moderna yn dilyn dryswch ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi bwrw eu targed o gynnig brechlyn i bob oedolyn dros 50 oed.
Maen nhw’n honni eu bod nhw bellach wedi cysylltu â phawb, ond mae unigolion yn adrodd nad ydyn nhw wedi cael cynnig brechlyn o hyd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun (Ebrill 5) eu bod nhw eisoes wedi bwrw’r targed oedd ganddyn nhw a llywodraethau datganoledig eraill Prydain ar gyfer canol mis Ebrill.