Mae’r awdur, perfformiwr a DJ Gareth Potter wedi bod yn rhannu ei brofiadau o gael ei gamdrin yn rhywiol gan yr athro John Owen yn Ysgol Rhydfelen.

Mae Newyddion S4C wedi cyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol fore heddiw (dydd Mercher, Ebrill 7) yn dangos rhan o’r cyfweliad fydd yn cael ei darlledu heno yn y rhaglen John Owen: Cadw Cyfrinach.

Bydd y cyn-ddisgybl i John Owen yn rhannu ei brofiadau a’r effaith a gafodd blynyddoedd o gamdrin ar  ddisgyblion yn Ysgol Rhydfelen rhwng 1977 a 1992.

“Roedd e’n galw fi draw i’w swyddfa i drafod ryw sgript neu speech ro’n i’n gweithio arno,” meddai.

“Roedd e’n cloi y drws a thynnu zip fy nhrowsus i lawr. Roedd fy nghalon i’n suddo achos ro’n i’n gwybod beth oedd yn dod nesa.”

“Fe wnaeth John Owen ddechrau groomio fi yn ifanc iawn wrth i fi ddechrau yn Ysgol Rhydfelen.

“Do’n i ddim yn gwybod pa mor sinistr oedd y trap o’n i ynddo yn mynd i droi.

“Ro’n i’n joio perfformio, canu, adrodd a cystadlu – fi’n cofio meddwl reit – I must get him to notice me.

“Roedd e’n foi hynod o charismatic a roeddet ti eisiau iddo fe dy glodfori di.”

‘Maniwpiwleiddio’

Roedd yr ysgol yn adnabyddus am sioeau cerdd.

“Roedden ni’n gweithio’n galed ar y sioeau yna,” meddai Gareth Potter wedyn.

“Roedd John Owen wastad yn mynnu teyrngarwch gennych chi. Os nad o’ch chi 100% gyda fe – ro’ch chi yn erbyn e a chi oedd y gelyn.

“Dyna un o’r ffyrdd roedd e’n maniwpiwleiddio ni.

“Oedd e’n gallu helpu fi gyda beth o’n i moyn yn fy mywyd ac roedd rhaid i fi wneud y fargen yma gyda’r diafol.

“A pan ddechreuodd yr holl gamdrin rhywiol ro’n i’n switcho off a trio rhoi fy hun yn rhywle arall.”

Er ei fod erbyn hyn yn casáu John Owen am yr hyn a wnaeth iddo, mae’n cyfaddef fod na ochr hoffus i Owen.

“Mi oedd e’n ddyn oedd yn rhoi llwyth o gyngor i fi, oedd na ochr addfwyn a charedig iawn iddo fe ac roedd e’n gallu tynnu pethe gwych allan ohonai.

“Yn emosiynol, wi dal yn ddig gyda fe.

“Wi’n beio fe am anafu fi ond hefyd, ro’n i’n gallu neud esgusodion drosto fe a gweld e fel victim.”

Cyn-ddisgybl yn sôn am effaith camdriniaeth rhywiol gan ei gyn-athro

“Roedd fy nghalon i’n suddo achos ro’n i’n gwybod beth oedd yn dod nesa”