Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi lansio eu hymgyrch etholiad gydag addewid i roi “adferiad yn gyntaf”.

Mae hynny yn golygu “sicrhau adferiad economaidd, adferiad i’n hamgylchedd ac adferiad iechyd meddwl,” yn ôl Jane Dodds, arweinydd y blaid.

Bydd Etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ar Fai 6.

Ar hyn o bryd, dim ond un Aelod o’r Senedd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd – sef Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru sy’n cydweithio â’r llywodraeth.

Heddiw (dydd Mercher, Ebrill 7), bydd Jane Dodds yn amlinellu polisïau allweddol y blaid, sy’n cynnwys:

  • gwario £1bn y flwyddyn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd
  • adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol newydd
  • buddsoddiad o £500m yn strydoedd mawr, trefi a chanol dinasoedd Cymru
  • cynnal treial o UBI (Incwm Sylfaenol Cyffredinol) yng Nghymru
  • rhewi cyfraddau busnes am bum mlynedd a rhoi system decach a mwy cefnogol yn eu lle.
  • cyflwyno gofal plant rhan-amser am ddim i bawb o 9 mis hyd at oedran ysgol, ac ehangu’r ddarpariaeth o ran gofal cyn ac ar ôl ysgol.

‘Heriau enfawr’ y llywodraeth nesaf

Mae disgwyl i Jane Dodds ddweud bod y llywodraeth nesaf yn wynebu “heriau enfawr”.

Bydd hin dweud: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd a bywyd fel y gwyddom wedi newid, ond rwy’n gwybod bod Cymru’n wlad wydn ac mae gennym gyfle i adeiladu dyfodol gwell i’n plant a phlant ein plant.

“Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yw’r unig blaid sy’n addo rhoi adferiad yn gyntaf.

“Byddwn yn sicrhau ein hadferiad economaidd, adferiad amgylcheddol ac adferiad i’n gwasanaethau iechyd meddwl.

“Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu heriau enfawr yn y problemau oedd eisoes yn bodoli yn ein gwlad ac sydd wedi cael eu gwaethygu o ganlyniad i Covid.”

“Polisïau uchelgeisiol”

Bydd hi’n mynd yn ei blaen i ddweud: “Gyda pholisïau uchelgeisiol a llawn gyraeddadwy yn amrywio o adeiladu 30,000 o gartrefi newydd, i fuddsoddi yn ein strydoedd mawr, a rhewi’r ardrethi busnes sy’n effeithio cynifer o gwmnïau bach a chanolig, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno opsiynau radical ond realistig ar gyfer dyfodol Cymru.

“Ni all Cymru fforddio i unrhyw blaid nac unrhyw lywodraeth roi unrhyw beth heblaw ein hadferiad yn gyntaf. Dyna’n union fydd pleidlais i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae Rhoi Adferiad yn Gyntaf yn golygu sicrhau adferiad economaidd, adferiad i’n hamgylchedd ac adferiad iechyd meddwl.”