Mae arweinwyr iechyd wedi dweud na ddylid enwi amrywiolion Covid-19 newydd ar ôl llefydd – a hynny er mwyn osgoi “stigmateiddio” gwlad neu le.
Mae arbenigwyr sy’n gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn datblygu enwau newydd ar gyfer amrywiolion – sy’n aml yn cael eu henwi ar ôl y mannau lle caiff yr amrywiolion eu canfod gyntaf.
Mae llawer o amrywiolion Sars-CoV-2 – y feirws sy’n achosi Covid-19 – wedi’u nodi ledled y byd.
Mae hyn yn cynnwys yr amrywiolyn B.1.1.7 – neu “amrywiolyn Caint” yn y Deyrnas Unedig, ac “amrywiolyn y Deyrnas Unedig” yng ngweddill y byd.
Ond dywed Sefydliad Iechyd y Byd ei bod yn bwysig fod gwledydd yn cadw golwg ar y feirws a dilyniannodi (sequencing) genomeg i ddarganfod amrywiolion newydd heb ofni stigma am wneud hynny.
“Rydym yn parhau i weld pobol yn enwi’r amrywiolion ‘amrywiolyn gwlad X’ neu ‘amrywiolyn gwlad Y’, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar ddatblygu enwau, gyda grŵp mawr o wyddonwyr ledled y byd,” meddai arweinydd technegol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Covid-19, Dr Maria Van Kerkhove, wrth gynhadledd i’r wasg.
“Rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi’r enwau yn fuan iawn, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw unrhyw un o’r enwau sy’n cael eu defnyddio yn stigmateiddio person, neu enw olaf, neu leoliad yn anfwriadol, ac felly rydym yn dal i weithio ar hynny.
“Ond rydym yn gobeithio nad yw gwledydd a gwyddonwyr yn dweud ‘amrywiolyn De Affrica’.”
“Ni ddylai stigma fod yn gysylltiedig â chanfod y firysau hyn”
“Ar hyn o bryd, yr hyn rydym yn ei ddefnyddio yw: y B.1.1.7 – yr amrywiolyn a nodwyd gyntaf yn y Deyrnas Unedig; y B.1.351 – yr amrywiolyn a nodwyd gyntaf yn Ne Affrica; a’r P1, sef yr amrywiolyn a ganfuwyd gyntaf yn Japan, ond sy’n cylchredeg ym Mrasil,” meddai wedyn.
“Ond ddylai stigma ddim bod yn gysylltiedig â chanfod y firysau hyn ac yn anffodus, rydym yn dal i weld hynny’n digwydd.
“Ni ddylid stigmateiddio gwledydd sy’n cynnal gwyliadwriaeth ac sy’n cynnal dilyniannodi, sy’n rhannu’r dilyniannau hynny ar lwyfannau sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd a gwyddonwyr ledled y byd, ac sy’n rhannu’r wybodaeth honno.
“Yn wir, mae angen mwy o hyn arnom ledled y byd, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod hynny’n digwydd.”