Mae clwb comedi yn Lerpwl sydd wedi bod dan y lach am gytuno i gynnal gig i arbrofi â thrwyddedau brechu Covid-19 yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol mai dyna oedd y bwriad pan wnaethon nhw gytuno i’w gynnal.

Mae’r Hot Water Comedy Club wedi tynnu’n ôl ar ôl cael eu sarhau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn adroddiadau eu bod nhw’n cydweithio ag Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain i dreialu trwyddedau brechu.

Mae Llywodraeth Prydain wedi beirniadu’r sylwadau sarhaus, gan egluro y byddai digwyddiadau arbrofol yn seiliedig ar ganlyniad prawf negyddol yn hytrach na phrofi bod rhywun wedi cael brechlyn.

Y digwyddiad

Roedd disgwyl i’r gig comedi gael ei gynnal yn yr M&S Bank Arena yn Lerpwl er mwyn casglu data ar sut i agor lleoliadau a chynnig digwyddiadau torfol i’r cyhoedd eto.

Does dim bwriad i ailgyflwyno digwyddiadau o’r fath cyn Mehefin 21.

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i helpu lleoliadau, gan gynnwys clybiau comedi a cherddoriaeth, caeau pêl-droed, theatrau, sinemâu ac ati, i agor eu drysau’n ddiogel.

Yn ystod y digwyddiad arbrofol, mae disgwyl i fesurau rheoli risg Covid-19 gael eu rhoi ar waith a’u hadolygu.

Yn ninas Lerpwl, fe fydd sawl ffilm yn cael eu dangos yn sinema Luna, cynhadledd fusnes a chlwb syrcas hefyd yn cael eu cynnal.

Eglurhad

Mae’r Hot Water Comedy Club wedi egluro’u safbwynt ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn adroddiad yn y Liverpool Echo.

“Fe gytunon ni i fod yn rhan o’r ‘Rhaglen Ymchwil i Ddigwyddiadau’ ddechrau mis Mawrth,” meddai neges ar eu tudalen Facebook.

“Yna, cawsom wybod mai pwrpas y digwyddiad nodedig oedd profi y gallai lleoliadau a digwyddiadau fel ein rhai ni gael eu hagor yn hawdd a’u cynnal.

“Roedden ni’n deall y byddai tystiolaeth o’r canlyniadau’n cael ei defnyddio i gefnogi’r ddadl dros agor lleoliadau fel ein lleoliad ni YN LLAWN, HEB fod angen cadw pellter cymdeithasol.

“Doedd dim sôn ar unrhyw adeg am drwyddedau brechu mewn unrhyw drafodaethau gawson ni cyn cytuno i gynnal y digwyddiad.”

Maen nhw’n dweud bod y Liverpool Echo wedi cyhoeddi erthygl ar Fawrth 13 ar ôl iddyn nhw gytuno i gynnal digwyddiad.

“Roedden ni’n credu bod yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden wedi amlinellu bwriad y digwyddiad yn glir pan ddywedodd e: ‘Bydd y digwyddiadau arbrofol hyn yn allweddol wrth ddod o hyd i ffyrdd o gael cefnogwyr a chynulleidfaoedd yn eu hôl yn ddiogel heb gadw pellter cymdeithasol. Byddwn ni’n cael ein harwain gan yr arbenigwyr gwyddonol a meddygol, ond byddwn yn gweithio’n ddiflino i wneud i hynny ddigwydd. Rydyn ni eisiau cael pobol yn eu hôl yn mwynhau’r hyn maen nhw’n ei garu a sicrhau bod rhai o’n diwydiannau twf yn ôl ar eu traed. Mae’r rhain yn gamau pwysig tuag at yr haf diogel ac arbennig rydyn ni i gyd yn ysu i’w gael ac yr ydw i’n canolbwyntio ar ei gyflwyno’.”

Sefyllfa’r clwb comedi

Mae’r clwb yn mynd yn ei flaen i egluro eu bod nhw wedi agor bob cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf, gan wario mwy na £30,000 i sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Prydain.

Fe wnaethon nhw gyflogi staff ychwanegol hefyd i gadw trefn ar yr ap olrhain cysylltiadau, ac maen nhw’n dweud na fu’r un achos o Covid-19 yn gysylltiedig â nhw ers y dechrau.

Serch hynny, bu’n rhaid i’r clwb gau eu drysau.

Rai wythnosau’n ddiweddarach, maen nhw’n dweud bod Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg yn crybwyll trwyddedau brechu.

“Am ryw reswm, cafodd yr holl dreialon eu tynnu ynghyd yn yr un datganiad ac roedd hi’n ymddangos ein bod ni’n rhan o’r rhaglen drwyddedau brechu.

“Fel mae’n digwydd hefyd, ni oedd â’r digwyddiad cyntaf fel rhan o unrhyw dreialon oedd ar waith, felly does dim syndod fod y penawdau’n sôn am ‘Hot Water Comedy Club’ a ‘The Vaccine Passport Programme’ fel pe baen ni’n rhan o’r rhaglen.”

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedyn yn ymwybodol fod erthygl yn y papurau newydd yn cysylltu’r ddau beth, a’u bod nhw wedi cysylltu â Chyngor Lerpwl a’u holl gysylltiadau “gan ein bod yn poeni’n fawr am y ffordd yr oedden ni wedi cael ein portreadu yn y cyfryngau wrth ein cysylltu ni â threialon trwyddedau brechu, sef rhywbeth nad oedden ni fyth wedi ei gytuno”.

Ymateb y Cyngor

Dywed y clwb wedyn eu bod nhw wedi derbyn ymateb gan y Cyngor yn dweud nad oedd y stori yn y wasg yn wir a bod Adran Ddiwylliant y Llywodraeth yn mynnu nad oedden nhw wedi briffio newyddiadurwyr ac y bydden nhw’n egluro eto na fyddai trwyddedau brechu’n orfodol ar gyfer y digwyddiad.

“Yn anffodus, roedd y niwed wedi’i wneud eisoes,” meddai’r clwb wedyn.

“Dros y ddau ddiwrnod canlynol, roedden ni’n destun ymgyrch gasineb gan bobol sy’n gwrthwynebu’r drwydded frechu, a hynny ar draws ein sianel Facebook, Twitter, Instagram, e-byst, negeseuon testun, adolygiadau negyddol, ceisiadau am ad-daliadau a galwadau ffôn.”

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi derbyn 4,000 negeseuon o’r fath a’u bod nhw wedi cynnal cyfres o gyfweliadau er mwyn egluro’r sefyllfa.

“Yn anffodus, mae nifer o erthyglau’n cylchredeg o hyd sy’n nodi ein hymrwymiad yn anghywir,” meddai wedyn.

“O ganlyniad i ddatganiadau i’r wasg ac erthyglau camarweiniol yn y wasg a’r neges ddryslyd ar wefan swyddogol y llywodraeth, rydym wedi penderfynu peidio bod yn rhan o unrhyw raglen,

“Dydyn ni ddim wedi llwyddo i siarad ag unrhyw un yn y llywodraeth am hyn.”