“Newid hyfforddwr” sydd ei angen ar ddatganoli yng Nghymru, ac nid ymdrech i’w ddiddymu yn llwyr.
Dyna fydd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yn ei ddweud wrth draddodi araith am ddatganoli yn ddiweddarach.
Ers i’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd ddod yn arweinydd ar grŵp ei blaid ym Mae Caerdydd, mae cwestiynau wedi codi ynghylch agwedd y blaid at ddatganoli.
Ym mis Ionawr, fe ddaeth i’r amlwg fod tri ymgeisydd Ceidwadol eleni yn cefnogi diddymu’r Senedd ond yn ddiweddarach, fe wnaeth Andrew RT Davies bwysleisio nad dyna yw polisi ei blaid.
Wrth siarad brynhawn heddiw (dydd Mercher, Ebrill 7), mi fydd yn lladd ar weledigaethau pleidiau eraill Cymru – gan gynnwys safiad Plaid Diddymu’r Cynulliad – ac mi fydd yn dadlau mai newid llywodraeth sydd ei angen ar y wlad hon, ac nid newid cyfansoddiadol.
Bydd yn dweud: “Mae adferiad economaidd cryf yn ddibynnol ar fod yn rhan o Deyrnas Unedig gref ac unedig.
“Esgus arall yw hunanlywodraeth (home rule) er mwyn celu methiannau Llafur.
“Byddai refferendwm [annibyniaeth], ar y llaw arall, yn plymio Cymru mewn i anhrefn – ac yn achosi hynny yn ystod cyfnod lle mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar adferiad.
“Wnaethon ni ddim diddymu tîm rygbi Cymru yn dilyn blynyddoedd tywyll y 1990au – wnaethon ni newid yr hyfforddwr.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyfleu mai cadw datganoli ar ei ffurf bresennol yw’r nod, ac nad oes awydd gan y blaid am ddiwygio cyfansoddiadol.
“Dim rhagor o bwerau, dim rhagor o wleidyddion, dim rhagor o drethi, a dim rhagor o anhrefn cyfansoddiadol,” mae disgwyl iddo ddweud.
“Dŵr glas clir”
Mi fydd Andrew RT Davies hefyd yn addo y bydd yna “ddŵr glas clir” (h.y. pellter) rhwng y Ceidwadwyr a “sefydliad Bae Caerdydd”.
Cyfeiriad yw hyn at araith gan y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan lle cyfeiriodd at “ddŵr coch clir” (h.y gwahaniaeth ideolegol) rhwng Llafur Cymru a’r Llafur Llundeinig.
Bydd yn dweud: “Mae angen i’r consensws clyd ddod i ben, yn ogystal â gwladwriaeth ddibynnol (client state) Llafur.
“Mae’n bryd am ddŵr glas clir.
“Ac mi fydd cyhoedd Cymru yn gwybod y bydd yna Ddŵr Glas Clir os gwnawn nhw bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig ar Fai 6.
“Mae angen dŵr glas clir rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a phleidiau’r status quo yn sefydliad Bae Caerdydd.”